Iechyd da! Ychwanegu termau Cymraeg i Eiriadur Rhydychen

Disgrifiad,

Beth yw'r geiriau Cymraeg sydd wedi'u hychwanegu? Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n egluro

  • Cyhoeddwyd

Iechyd da, ych a fi, a sglods - dyma rai o'r termau Cymraeg sydd wedi cael eu hychwanegu i'r fersiwn ddiweddaraf o Eiriadur Saesneg Rhydychen (OED).

Mae'r geiriadur yn cynnwys dros 500,000 o eiriau a'n cael ei ddiweddaru pedair gwaith y flwyddyn.

Nawr yn eu plith mae 10 term y bydd siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd iawn gyda nhw.

Mae'r geiriau yn cael eu hychwanegu am fod cofnod o'u defnydd mewn "gwahanol ffynonellau" o ysgrifennu Saesneg, a bod hynny i'w weld dros "gyfnod rhesymol o amser".

Y termau Cymraeg newydd yn yr OED

  • Calennig

  • Cawl

  • Iechyd da

  • Mamgu

  • Tadcu

  • Taid

  • Senedd

  • Sglods

  • Twp

  • Ych a fi

Ffynhonnell y llun, OED
Disgrifiad o’r llun,

Y diffiniadau ar gyfer Calennig ac ych a fi yn y geiriadur

Y gair Cymraeg hynaf i gael ei ychwanegu yw 'calennig', gyda'r enghraifft gyntaf o'r gair yn cael ei ysgrifennu'n Saesneg ym 1749, yn ôl yr OED.

Mae'r term yn deillio o'r gair Calan, ac yn golygu rhodd neu anrheg ar ddydd Calan, neu'r arfer lle bydd plant yn mynd o dŷ i dŷ i gasglu calennig.

Mae'r termau teuluol 'mamgu', 'tadcu' a 'taid' wedi'u hychwanegu i'r geiriadur hefyd.

Maen nhw'n ymuno â'r gair 'nain' - a gafodd ei ychwanegu i'r OED mewn diweddariad blaenorol.

Mae sawl term Cymraeg sy'n ymwneud â bwyta ac yfed hefyd wedi'u hychwanegu y tro hwn.

Mae'r rheiny'n cynnwys 'iechyd da', 'cawl', a'r gair mwyaf diweddaraf o'r 10 newydd, sef 'sglods' - a ymddangosodd yn ysgrifenedig yn Saesneg am y tro cyntaf yn 1994.

Mae 'ych a fi', a 'twp' hefyd wedi'u hychwanegu.

Hefyd wedi'i gynnwys mae'r gair 'Senedd' - sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg ers i'r newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2020.

Pynciau cysylltiedig