Beth yw'r pecynnau all achub bywyd rhywun sy’n cael eu trywanu?

Gallai tacsis yn cario rhwymynnau meddygol o safon milwrol fod ar strydoedd Cymru’n fuan, gyda’r gobaith y gall “hyd yn oed un ohonyn nhw” achub bywyd rhywun sy’n cael eu trywanu.

Gobaith elusen sy’n cael ei rhedeg gan gyn-filwr ac heddwas yw y bydd o leiaf 50 o yrwyr tacsis Caerdydd yn cario’r pecynnau, fel rhan o rwydwaith sydd eisoes yn cynnwys chwe dinas arall ym Mhrydain.

Byddai sticeri ar y ceir yn dangos pa rai sy’n cario’r pecynnau, a gall aelodau’r cyhoedd ddenu eu sylw er mwyn defnyddio’r offer i roi cymorth meddygol i rywun sydd wedi’u trywanu.

Ein gohebydd Iolo Cheung sy'n egluro mwy am y cynllun.