Y tacsis allai achub bywyd ar ôl ymosodiad cyllell
- Cyhoeddwyd
Gallai tacsis yn cario rhwymynnau meddygol o safon milwrol fod ar strydoedd Cymru’n fuan, gyda’r gobaith y gall “hyd yn oed un ohonyn nhw” achub bywyd rhywun sy’n cael eu trywanu.
Gobaith elusen sy’n cael ei rhedeg gan gyn-filwr ac heddwas yw y bydd o leiaf 50 o yrwyr tacsis Caerdydd yn cario’r pecynnau, fel rhan o rwydwaith sydd eisoes yn cynnwys chwe dinas arall ym Mhrydain.
Byddai sticeri ar y ceir yn dangos pa rai sy’n cario’r pecynnau, a gall aelodau’r cyhoedd ddenu eu sylw er mwyn defnyddio’r offer i roi cymorth meddygol i rywun sydd wedi’u trywanu.
“Mae’n ffaith annymunol bod modd i chi waedu i farwolaeth mewn llai na phum munud,” meddai Alex Chivers, cyd-sylfaenydd RAPAID.
“Y cyflymaf gewch chi driniaeth, y gorau yw’ch siawns o oroesi.”
Cwymp mewn troseddau
Mae miloedd o becynnau RAPAID eisoes mewn cerbydau ar hyd a lled Llundain, Manceinion, Rhydychen, Caerwysg, Swindon a Plymouth - Caerdydd a Bro Morgannwg sydd nesaf ar y rhestr.
Mae’r pecynnau’n cynnwys rhwymynnau wedi’u dylunio i atal gwaedlif trwm, ac yn ôl Mr Chivers roedd sicrhau eu bod ar gael yn hawdd i’r cyhoedd yn flaenoriaeth.
“O fy mhrofiad i gyda’r heddlu a’r lluoedd arfog, fel arfer y cyhoedd yw’r bobl gyntaf yna cyn i unrhyw gymorth gyrraedd,” meddai.
“Yn y munudau cyntaf yna mae pobl wir angen help."
“'Nes i feddwl i fy hun, pam nad ydi’r cyhoedd yn gallu cael y rhwymynnau hyn, a sut allwn ni sicrhau eu bod nhw ar gael yn gyhoeddus?
“Mae tacsis yn mynd a dod o’n cymunedau ni ddydd a nos, maen nhw ar ein stryd fawr ni gyda’r nos. Maen nhw tu allan i bob lle prysur,” meddai.
Mae ffigyrau’n dangos bod nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty yng Nghymru ar ôl ymosodiad gyda theclyn miniog wedi gostwng yn ddiweddar, gyda 60 achos yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2024.
Roedd hyn yn ostyngiad o 19% ar y flwyddyn gynt (74), a chwymp o 50% ar y ffigyrau o bum mlynedd yn ôl (121).
Mae nifer y troseddau cyllyll ac offer miniog gafodd eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru hefyd wedi gostwng rhywfaint o’r lefel uchaf yn 2019/20, pan oedd 1,680 achos – er bod ffigyrau y llynedd (1,584 trosedd) dal dros ddwbl beth oedden nhw ddegawd yn ôl.
A gyda thua hanner y troseddau hynny’n digwydd yn ardal Heddlu’r De, mae Mr Chivers yn cyfaddef bod troseddau cyllyll yn parhau i fod yn broblem mewn rhai cymunedau.
“Mae’n well cael y pecynnau yma a bod dim eu hangen, ond os oes un rhwymyn yn achub bywyd, rydyn ni wedi llwyddo,” meddai.
'Syniad mor syml'
Nid pecynnau i achub dioddefwyr troseddau cyllyll yn unig ydyn nhw, fodd bynnag.
Yn ôl Mr Chivers maen nhw hefyd wedi cael eu defnyddio ar gyfer anafiadau eraill hefyd, gan gynnwys ble mae pobl wedi meddwi, neu dorri eu hunain ar wydr.
Nid y bwriad chwaith yw rhoi mwy o gyfrifoldeb ar yrwyr tacsi, meddai, gan mai eu prif rôl nhw fydd eu darparu i’r rheiny sy’n ceisio rhoi cymorth.
Bydd sticeri yn ffenestri’r tacsis yn rhoi gwybod pa rai sydd yn eu cario, gyda’r cyfarwyddiadau ar sut i helpu’r claf hefyd yn ddwyieithog.
“Beth hoffen i weld yw bod rhain ar bob tacsi ar draws y wlad, a’i fod e’n dod yn normal bod pobl yn cario rhain,” meddai Mr Chivers.
“Mae pobl eisoes wedi cael eu hachub. Mae’n syniad mor syml.”
Mae’r cynllun, fydd yn cael ei lansio yn y brifddinas ddydd Gwener, eisoes wedi denu cefnogaeth y cyngor, gyrwyr tacsi a’r heddlu.
“Mae’r awdurdod wrth ein boddau y bydd gyrwyr yn y ddinas yn gallu cario’r pecynnau yma, a bod yr ymgyrch ar gael yn y ddinas,” meddai Rhys Morgan, o adran drwyddedau Caerdydd a Bro Morgannwg.
Ychwanegodd: “Mae cael y teclynnau ar gael ar draws y ddinas i helpu ein parodrwydd a’n hymateb i argyfyngau a damweiniau difrifol yn gam ymlaen er mwyn cynnig cefnogaeth i’r economi ddydd a nos yn y ddinas yn ehangach.”