Menyw ifanc ddim yn cofio damwain trên ar ôl taro'i phen
Mae dyn yn ei 60au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair ym Mhowys.
Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
Mae'r BBC yn deall fod y trên tua'r gorllewin wedi mynd tua chilomedr heibio i'r man stopio cywir.
Un o'r rheiny oedd ar y trên hwnnw oedd Bethan Evans, 23 o Dal-y-bont yng Ngheredigion.
Doedd hi ddim wedi sylweddoli bod y trên wedi bod mewn damwain, ac mae hi'n credu felly ei bod wedi cael ei tharo'n anymwybodol.