Dyn yn ei 60au wedi marw a nifer wedi'u hanafu mewn damwain trên
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair ym Mhowys, yn ôl Heddlu Trafnidiaeth.
Dywedodd yr heddlu mai dyn yn ei 60au sydd wedi marw, ac nad yw wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.
Dyw hi ddim yn ymddangos fod y dyn fu farw yn aelod o staff y rheilffordd.
Cafodd 15 o bobl eraill eu trin yn yr ysbyty am anafiadau - pedwar ohonynt am anafiadau difrifol.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Andrew Morgan o'r Heddlu Trafnidiaeth ei bod yn "gynnar iawn" i ddweud beth oedd achos y farwolaeth, "ond ar hyn o bryd 'dyn ni ddim yn credu taw anafiadau o'r ddamwain wnaeth achosi i'r gŵr farw".
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn ymchwilio i achos y ddamwain, a dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi lansio ymchwiliad troseddol hyd yma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 19:29 nos Lun ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.
Cafodd 15 person arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried fel rhai sydd yn peryglu nac yn newid bywyd - rhai i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac eraill i Ysbyty Brenhinol Amwythig.
Ond dywedodd yr RAIB fod pedwar o'r rheiny wedi cael anafiadau difrifol.
Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya.
Ychwanegon nhw fod ymchwiliadau o'r rheilffordd yn awgrymu fod lefel y gafael rhwng yr olwynion a'r trac yn reit isel, gan awgrymu fod y trên wedi llithro tra'n ceisio arafu.
Un o'r trenau wedi methu â stopio
Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
Mae'r heddlu'n credu fod y trên i gyfeiriad y gorllewin wedi taro'r trên llonydd oedd yn mynd am y dwyrain.
Mae'r BBC yn deall fod y trên o Amwythig i Aberystwyth wedi mynd tua chilomedr heibio i'r man stopio cywir, ac mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn ceisio sefydlu'r rheswm pam na lwyddodd i stopio.
Dywedodd ffynhonnell sy'n agos at yr ymchwiliad wrth y BBC: "Dydyn ni ddim yn gwybod eto pam na stopiodd".
Mewn datganiad ar y cyd, fe gadarnhaodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru bod dau drên wedi gwrthdaro ger Llanbrynmair ym Mhowys am 19:21 nos Lun.
Ychwanegon nhw y bydd y rheilffordd ar gau i'r dwyrain o Fachynlleth "tra bod timau arbenigol yn parhau â'r ymchwiliad", ac maen nhw'n cynghori teithwyr i osgoi'r ardal.
Mae'r A470 hefyd yn parhau ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ardal Talerddig ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.
Dywedodd Cyngor Powys fod y digwyddiad wedi effeithio ar drafnidiaeth i'r ysgolion lleol.
Mewn datganiad, dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi gyrru wyth ambiwlans brys i'r lleoliad.
Ychwanegon nhw fod y criwiau wedi eu cefnogi "gan ddau barafeddyg o Uned Ymateb Acíwt Uchel Cymru, un uwch barafeddyg, dau reolwr gweithredol, un Gwasanaeth Chwilio ac Achub ac un Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus.
"Cyflwynwyd cymorth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn pedwar hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru a dau gar."
Mae Asiantaeth Llywodraeth y DU sy'n ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd (RAIB) wedi cadarnhau eu bod wedi anfon arolygwyr i safle'r ddamwain.
Roedd Bethan Evans, 23 o Dal-y-bont yng Ngheredigion, ar y trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth.
Dywedodd bod ei bag wedi disgyn oddi ar y sedd, a bod y trên wedi dod i stop, ond doedd hi ddim wedi sylweddoli bod y trên wedi bod mewn damwain.
Mae hi'n credu efallai ei bod wedi cael ei tharo'n anymwybodol.
"Y peth ola' fi'n cofio, o'n i'n darllen llyfr. Dwi'n cofio droppio llyfr fi a theimlo'r brêcs ond oedd y trên yn dal i fynd yn gyflym," meddai.
"Ro'n i'n meddwl, beth bynnag oedd wedi digwydd, roedden ni angen stopio'n sydyn - falle bod y trên wedi torri lawr neu rhywbeth.
"Wedyn nes i ofyn i bobl eraill a oedden nhw fel 'nes di ddim teimlo mynd mewn i drên arall?'
"Y peth ola' o'n i'n cofio oedd darllen llyfr fi a wedyn teimlo'r brêcs yn mynd arno.
"O'dd llawer o bobl yn dweud bo' nhw wedi cwympo mas o seddi nhw, felly roedd o'n llawer gwaeth na be' o'n i'n meddwl.
"Dwi'n credu falle nes i pasio mas neu bwrw pen fi pan wnaeth yr impact ddigwydd efo'r trên arall."
Dywedodd mai cleisiau ar ei choesau yw'r unig arwyddion allanol ei bod wedi bod mewn gwrthdrawiad, ond ei bod hefyd wedi cael "pen tost a wedi bod yn sick dwywaith, fi'n credu achos bo' fi wedi bwrw pen fi".
Ond dywedodd ei bod yn teimlo'n lwcus "o weld beth sydd wedi digwydd i bobl eraill".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Mae fy meddyliau gyda phawb a fu'n rhan o'r digwyddiad rheilffordd ym Mhowys yn gynharach heno.
"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb ac rwyf wedi gofyn am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y nos."
Mae'r gwleidydd sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth yng Nghymru wedi ceisio sicrhau teithwyr bod y rheilffyrdd yn ddiogel.
Yn y Senedd, dywedodd Ken Skates AS mai diogelwch yw "prif flaenoriaeth" y llywodraeth, gan ddweud bod digwyddiadau o'r fath yn "hynod brin".
Fe fydd yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn cymryd sawl mis, meddai, ac mae'n bwysig rhoi amser am ymchwiliad "trylwyr" er mwyn "sicrhau bod yr atebion a gawn ni yn gynhwysfawr".
Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwasanaethau rhwng Amwythig ac Aberystwyth yn cael eu canslo am y tro ond byddan nhw'n darparu dull arall o deithio rhwng y ddau le.
Oherwydd bod ffyrdd ar gau, ni fydd y gwasanaeth yn galw yng ngorsaf Caersws am y tro.
Tua 40 o bobl ar y trenau
Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Jan Chaudhry o Drafnidiaeth Cymru fod y teithiwr fu farw ar y trên yn teithio i'r gorllewin.
"Roedd y trên hwnnw'n teithio o'r Amwythig ac roedd tua 37 o deithwyr ar y trên penodol hwnnw tua'r gorllewin ac roedd pedwar teithiwr ar y trên tua'r dwyrain," meddai.
Wrth droi i drafod yr ymchwiliad sydd eisoes wedi'i lansio, ychwanegodd fod gan Gymru un o'r rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop.
"Mae gennym hefyd un o'r sefydliadau Ymchwilio i Ddamweiniau mwyaf proffesiynol sy'n gweithredu yn y DU," meddai.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy'n gwasanaethu ward Glantwymyn ar Gyngor Powys fod y lein yn bwysig i'r ardal leol.
Dywedodd fod "nifer o drigolion ac ymwelwyr yn defnyddio'r lein yn gyson ac yn ddyddiol" gan ychwanegu fod "angen atebion, 'da ni angen lleddfu pryderon a chael atebion cyn gynted â phosib".
Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel un "trasig" gan yr Aelod Seneddol dros Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden.
"Mae fy meddyliau gyda theulu’r dyn fu farw a’r 15 arall sydd wedi eu hanafu ac yn yr ysbyty," meddai.
"Rwy’n siŵr y byddai’r bobl oedd yn rhan o’r ddamwain a’u teuluoedd eisiau atebion cyn gynted â phosib ond rwy' hefyd yn credu bod hi’n bwysig i ni beidio â dyfalu a gadael i’r ymchwiliad wneud y gwaith."
Diolchodd hefyd i’r gwasanaethau brys am eu gwaith.
Dywedodd Anthony Hurford, teithiwr ar y trên a oedd yn teithio i Amwythig, ei fod yn "shellshocked" ar ôl y digwyddiad.
“Yn sydyn roeddwn i ar y llawr gyda fy laptop wedi’i wasgaru o'm mlaen, yn meddwl beth uffern oedd wedi digwydd,” meddai wrth BBC Breakfast.
"Does dim syniad gen i pa mor gyflym o’n i’n teithio - o tua 40, 50, 60mya i ddim byd o gwbl," meddai
"O’n i’n meddwl bydden ni'n dal yn symud ond do’n ni ddim. Collon ni’r holl gyflymder yna mewn eiliad – rwy' mewn sioc fawr ac mae fy abdomen a fy asennau mewn tipyn o boen."
Mae Ifan Edwards yn byw rhyw hanner milltir o'r digwyddiad ac fe aeth allan neithiwr i weld be ddigwyddodd ar ôl gweld goleuadau glas.
Dywedodd ei fod wedi "gwrando ar y radio plismon yn d'eud bod 'na train incident a ffeindio allan bod dau drên wedi collidio a clywed rhai erill yn siarad a bod y trên wedi methu stopio yn Talerddig... a sleidio a sleidio a just 'di methu stopio".