Emyr Afan: 'Croesawu Anrhydedd y Brenin yn fawr'

Mae nifer o Gymry ymhlith dros 1,000 o bobl drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.

Mae'r anrhydeddau eleni yn cydnabod cyfraniad pobl i fywydau eraill drwy fod yn flaengar neu drwy arwain newid mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd Emyr Afan, prif weithredwr cwmni teledu Afanti - sy'n gyfrifol am raglenni Cân i Gymru a Jonathan, ymhlith eraill - yn cael OBE am ei wasanaeth i'r cyfyngau a cherddoriaeth.

"Dwi wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth i Afanti ac i'r tri degawd o waith caled ar draws Cymru Prydain ac Ewrop," meddai.

"Mae'r gydnabyddiaeth honno i'r timau sydd wedi bod yn gweithio gyda fi, i'r talent a'r talent sy'n dod trwyddo. "Do'n i ddim yn disgwyl e ond mae'n hyfryd i'w gael e."