Alan Bates yn farchog yn rhestr Anrhydeddau'r Brenin

Alan BatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Alan Bates, arweinydd yr ymgyrch am gyfiawnder i bostfeistri yn sgil y sgandal Horizon, yn cael ei urddo'n farchog

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o Gymry ymhlith dros 1,000 o bobl drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.

Mae'r anrhydeddau eleni yn cydnabod cyfraniad pobl i fywydau eraill drwy fod yn flaengar neu drwy arwain newid mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd y cyn-bostfeistr ac ymgyrchydd dros gyfiawnder Alan Bates yn cael ei urddo'n farchog am wasanaethau i gyfiawnder, a bydd Ffion Hague yn dod yn fonesig am ei gwasanaeth cyhoeddus a'i gwasanaeth i fusnes.

Bydd cyn-Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David yn cael ei urddo'n farchog am wasanaeth seneddol a gwleidyddol, a bydd y darlledwr Roy Noble yn cael CBE am ei gyfraniad i ddiwylliant, iaith a chymunedau Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Roy Noble fod y CBE yn "gam lan" o'r OBE a dderbyniodd 20 mlynedd yn ôl

Dywedodd Roy Noble: "O'n i 'di cael y streip ar fy mraich blynydde'n ôl achos ges i'r OBE 20 mlynedd nôl a nawr dwi 'di cael y CBE, sy'n gam lan," meddai.

"Sa'i mo'yn bod yn fawreddog o gwbl ond mae e 'na.

"Mae 'na bobl 'di mynd mas o'u ffordd i'ch cefnogi chi ac os chi'n towlu e bant a gweud 'nagw i mo'yn hwnna', chi'n dodi nhw lawr mewn ffordd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ffion Hague yn dod yn fonesig am ei gwasanaeth cyhoeddus a'i gwasanaeth i fusnes

Bydd y ddawnswraig o Gaerffili Amy Dowden yn cael OBE am godi arian i wasanaethau Crohn's a Colitis a gwella ymwybyddiaeth o'r cyflyrau rheiny.

Ac ym maes iechyd bydd Carys Davies o Langwyryfon yng Ngheredigion yn derbyn Medal yr Ymerodraeth am ei gwasanaeth wrth hyfforddi a chefnogi bydwragedd i weithio mewn ysbyty heb uned gofal arbennig i fabanod.

"Mae'n sioc ac yn hollol annisgwyl ond dwi'n cyfri hi'n fraint ac anrhydedd mawr i gael enwebiad," meddai.

"Ni gyd yn passionate iawn bod mamau Ceredigion a mamau o Bowys neu Wynedd sy'n defnyddio'r uned, os y'n nhw dan consultant, yn gallu geni ym Mronglais a tase'r uned ddim gyda ni bydde'r rhan fwya' yn gorfod mynd i lefydd eraill i eni.

"O'n i rioed wedi dychmygu bydden i'n mynd i fod yn rhywle yn agos i Balas Buckingham yn cael paned o de 'fo nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Davies yn edrych ymlaen at gael paned o de ym Mhalas Buckingham!

Bydd Emyr Afan, prif weithredwr cwmni teledu Afanti - sy'n gyfrifol am raglenni Cân i Gymru a Jonathan, ymhlith eraill - yn cael OBE am ei wasanaeth i'r cyfyngau a cherddoriaeth.

"Dwi wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth i Afanti ac i'r tri degawd o waith caled ar draws Cymru Prydain ac Ewrop," meddai.

"Mae'r gydnabyddiaeth honno i'r timau sydd wedi bod yn gweithio gyda fi, i'r talent a'r talent sy'n dod trwyddo.

"Do'n i ddim yn disgwyl e ond mae'n hyfryd i'w gael e."

Disgrifiad,

Emyr Afan: 'Croesawu Anrhydedd y Brenin yn fawr'

Mae bron i hanner y bobl fydd yn derbyn anrhydedd eleni yn fenywod gan gynnwys yr Athro Rhian Goodfellow am wasanaeth i addysg feddygol, cyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth Elizabeth Treasure am wasanaeth i addysg uwch a Helen Lentle am wasanaeth i ddatganoli a'r broses ddeddfu yng Nghymru.

Yn y byd chwaraeon mae yna anrhydedd MBE i'r ddyfarnwraig Cheryl Foster sy'n wreiddiol o Fangor.

Hi oedd dyfarnwraig gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd dros gyfnod o 45 mlynedd gan ddyfarnu'r gêm bêl-droed rhwng Brasil a Panama yn Adeilade yn 2023.

Pynciau Cysylltiedig