Profiad 'emosiynol' ennill gwobr John a Ceridwen Hughes

Cafodd Menna Williams o Langernyw ei gwobrwyo â Thlws John a Ceridwen Hughes mewn seremoni ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau.

Mae'r tlws yn cael ei gyflwyno'n flynyddol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Er iddi gael gwybod ei bod wedi ennill y wobr yn ôl ym mis Ebrill, ar ei phen-blwydd yn 80, cafodd y seremoni ei chynnal ar Lwyfan y Cyfrwy ddydd Iau.

Mae Menna Williams, neu "Anti" Menna i nifer, wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o blant a phobl ifanc i ganu, cystadlu a gosod cerdd dant ers dros 50 mlynedd.

Yn dilyn y seremoni, dywedodd 'Anti' Menna ei fod yn "brofiad anhygoel ac mi aeth yn gyfarfod hyfryd iawn" gan ychwanegu ei bod "bach yn emosiynol 'wan".

Aeth ymlaen i ddweud: "Dwi dal yn methu credu 'mod i wedi derbyn y fath anrhydedd, roedd fy ngŵr wedi ennill 31 mlynedd yn ôl, fy niweddar ŵr 'lly."