Menna Williams yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes
Cafodd Menna Williams wybod ei bod yn derbyn y wobr gan Heledd Cynwal ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni.
Mae'r tlws yn cael ei gyflwyno'n flynyddol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Aeth y gyflwynwraig Heledd Cynwal draw i gyhoeddi'r wobr o flaen neuadd o blant Ysgol Bro Cernyw, a hynny ar ddiwrnod pen-blwydd Menna yn 80 ddydd Llun.
Mae ei hymroddiad yn cael ei ddisgrifio fel "amhrisiadwy" i blant a phobl ifanc yr ardal.

Mae Menna Williams wedi hyfforddi cenedlaethau o blant a phobl ifanc
Mae Menna Williams, neu "Anti" Menna i nifer, wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o blant a phobl ifanc i ganu, cystadlu a gosod cerdd dant ers dros 50 mlynedd.
Tra'n blentyn, bu'n aelod o Aelwyd y Groes dan arweiniad John a Ceridwen Hughes ei hunain.
Bu'n athrawes am flynyddoedd ac yn hyfforddi plant a phobl ifanc Gellifor, Y Bala, Llanrwst a Llangernyw i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Bu hefyd wrthi am ddegawdau yn hyfforddi'r criw yn Aelwyd yr Urdd Bro Cernyw.

Fe fydd Menna Williams yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni
'Mae fy nyled yn fawr iddi'
Dywedodd Owain John Jones, un o ddisgyblion Menna Williams ei bod "wedi ymroi gymaint i Ieuenctid Bro Cernyw dros y degawdau".
"Mae hi'n dal i roi o'i hamser i fy hyfforddi a bellach yn fy nysgu i greu gosodiadau cerdd dant fy hun."
"Dwi'n ddiolchgar iawn amdani ac mae fy nyled yn fawr iddi."

Mae Menna Williams wedi rhoi cymaint i'r ardal dros y blynyddoedd, meddai Owain John Jones
Roedd Menna'n athrawes i'r gantores Eleri Owen Edwards. Dywedodd Eleri fod Menna'n "berson arbennig iawn".
"Mae hi wedi rhoi bug cystadlu yna i ers yn ifanc iawn yn ysgol gynradd Llanrwst a wedi hybu ni i gystadlu'n yr Urdd."
"Mae hi'n frwdfrydig iawn, mae hi'n weithgar yn yr ardal a mae ei chyfraniad hi wedi bod yn aruthrol i'r Urdd, i'r ardal, ac i Gymru i dd'eud y gwir."

"Mae ei chyfraniad hi wedi bod yn aruthrol i'r Urdd, i'r ardal, a i Gymru"
Mae'r wobr eisoes wedi'i chyflwyno 32 o weithiau, a'r ail berson erioed i ennill y tlws oedd diweddar ŵr Menna, Llew Williams, a hynny yn 1993.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gyda'r Urdd fod cyfraniad Menna Williams yn un "amhrisiadwy, ac rydym yn ddiolchgar am ei gwaith diflino dros y blynyddoedd".
Caiff y tlws ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes.
Bydd seremoni arbennig i gyflwyno’r tlws ar Faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2024