Edwin ac Eirian Jones yn hel atgofion ar Cefn Gwlad

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Edwin ac Eirian Jones, Carrog, sydd wedi eu disgrifio fel cwpl oedd "yn rhan fawr o deulu" yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod "wedi ein tristau’n arw o glywed y newyddion am Eirian Jones, a hynny mor fuan ar ôl colli Edwin gwta fis yn ôl".

Bu farw Edwin ym mis Mai, tra bod Eirian wedi marw fis yma.

Bu'r ddau yn rhannu eu hatgofion ar raglen Cefn Gwlad S4C, a gafodd ei darlledu yn 2017.

Bu Eirian yn cyflwyno Dai Jones i'w chriw ymarfer corff, tra bod Edwin yn rhannu'r stori o sut iddo droi at ffermio yn Nhŷ Mawr ym mhentref Carrog.