Cofio dau o arwyr tawel yr Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad,

Clip o raglen Cefn Gwlad yn 2017, ble bu Eirian ac Edwin yn sgwrsio â Dai Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Edwin ac Eirian Jones, Carrog, sydd wedi eu disgrifio fel cwpl oedd "yn rhan fawr o deulu" yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod "wedi ein tristau’n arw o glywed y newyddion am Eirian Jones, a hynny mor fuan ar ôl colli Edwin gwta fis yn ôl".

Dywedodd cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards: "Roedd y ddau ohonyn nhw'n dîm perffaith. Lle'r oedd un, roedd y llall yn agos.

"Roedd y ddau gyda'i gilydd yn gwybod sut i gael y gorau o eraill."

Bu farw Edwin Jones ar 5 Mai yn 70 oed, ac yn ei deyrnged, dywedodd Hywel Wyn Edwards bod "colli'r ddau mor agos at ei gilydd yn greulon".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Edwin Jones yn siarad gyda Dai Jones ar Cefn Gwlad yn 2017

Fel rheolwr llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol am 28 mlynedd, roedd Edwin Jones yn cael ei ddisgrifio fel y "llais y tu ôl i'r llwyfan" a bu ei wraig, Eirian yn gweithio yn Swyddfa'r Eisteddfod ac ar y ddesg ymholiadau yng nghefn y Pafiliwn.

Yn 2009, cafodd y cwpl eu hurddo i Orsedd yr Eisteddfod ar Faes Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau, a hynny am eu gwaith yn eu bro ac fel athrawon yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

'Edwin Llwyfan' ac 'Eirian Carrog' oedd eu henwau barddol.

Wrth gael eu hurddo dywedodd Edwin, oedd yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth: "Mae'r llwyfan mewn dwylo saff tra fydda i'n y Cylch".

Ychwanegodd Eirian: "Rydym yn gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau yn yr Eisteddfod.

"Mae'r anrhydedd yn golygu tipyn mwy i ni yn yr ardal yma, wrth gwrs, ac mae'n fraint anhygoel ac rydym yn ddiolchgar iawn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol "y byddai gan Eirian air tawel o gefnogaeth i bawb" gefn llwyfan

Ar raglen Cefn Gwlad S4C, a gafodd ei darlledu yn 2017, eglurodd Edwin sut y buodd ef ac Eirian yn gweithio gyda'i gilydd yn Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug.

"Oddan ni'n teithio yn yr un car bob dydd. Mi gathon ni gyfnod da iawn yn cydweithio yna."

Priododd y ddau yn 1981.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Hywel Wyn Edwards yn gweithio'n agos gydag Edwin ac Eirian Jones yn ei waith fel trefnydd yr Eisteddfod

Roedd cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Hywel Wyn Edwards yn adnabod y ddau yn dda.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd: "Mi'r oedd cyfraniad y ddau yn anhygoel dros gyfnod maith".

"Roedd gan Edwin ddiddordeb mawr mewn gwyliau cenedlaethol a lleol achos o'dd llawer o'r rheiny yn cael eu cynnal yn yr hen bafiliwn yn Corwen fel Gŵyl Gorawl Cymru ac yr Ŵyl Gerdd Dant yn 1984, gan ddod yn reolwr llwyfan ar yr ŵyl honno o 1984 tan 2022 - cyfnod hir iawn - ac Eirian yn cynorthwyo."

Bu'r ddau yn cynhyrchu sioeau yn Ysgol Maes Garmon, a chynhyrchu a llwyfannu sioeau yn y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd Yr Wyddgrug yn 1984.

'Gallu dibynnu ar y ddau'

Yn 1991, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Wyddgrug lle'r oedd Eirian yn is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, a dyma'r tro cyntaf i Edwin reoli'r llwyfan.

Fel yr eglura Hywel Wyn Edwards roedd hi'n "swydd a gyflawnodd o tan 2019 - cyfnod o 28 mlynedd".

"Wedi i mi ddod yn drefnydd yn '93 mi ddaeth Eirian i helpu yn y swyddfa gan fod ar y ddesg ymholiadau, rhannu beirniadaethau a derbyn cwynion wrth gwrs.

"Roedd hi'n berffaith ar gyfer y swydd honno oherwydd ei chefndir a'i synnwyr cyffredin ac roedd hi'n gymorth enfawr yma wrth i mi gyflawni'r swydd.

"Roeddech chi'n gallu dibynnu ar y ddau - er roedd yn rhaid cael y cynhaeaf gwair a diwrnod yn y Sioe Fawr cyn dod at yr Eisteddfod!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ddau yn byw ar fferm Tŷ Mawr ym mhentref Carrog, rhwng Corwen a Llangollen, lle cafodd Eirian ei magu, a bu Edwin yn ffermio yno

Mae Hywel Wyn Edwards yn dweud bod y ddau wedi gwneud cyfraniad enfawr.

"Roedd y ddau ohonyn nhw'n dîm perffaith. Lle'r oedd un, roedd y llall yn agos.

"Roedd y ddau gyda'i gilydd yn gwybod sut i gael y gorau o eraill.

"Colled enfawr oedd colli un, ond mae colli'r ddau mor agos at ei gilydd yn greulon ac yn anodd i'r teulu bach sydd ar ôl a'r llu o ffrindiau oedd ganddyn nhw."

'Dau mor weithgar'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd Edwin ac Eirian yn rhan fawr o deulu’r Eisteddfod, yn gwirfoddoli ac yn helpu bob blwyddyn, lle bynnag roedd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal.

"Rhwng y ddau, roedden nhw’n rhan hollbwysig o brofiad ein cystadleuwyr, a byddai gan Eirian air tawel o gefnogaeth i bawb.

"Roedd Edwin ac Eirian yn barod eu cymwynas drwy gydol y flwyddyn, wastad yn barod i helpu, ac yn gefn mawr i’r staff, yn enwedig y rheiny yn y gogledd.

"Tan yn ddiweddar, roedd Eirian hefyd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod, gyda’i phresenoldeb a’i chyfraniad tawel a phwysig yn cael ei werthfawrogi gan bawb.

"Mae’r Eisteddfod dipyn tlotach ar ôl colli dau mor weithgar ag Edwin ac Eirian, ac rydyn ni’n diolch iddyn nhw am eu holl waith ac yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at eu teulu a’u holl ffrindiau."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Wrth siarad â Dai Jones ar Cefn Gwlad yn 2017, dywedodd Eirian ei bod "wedi mwynhau gweithio efo pobl ifanc"

Bu'r ddau hefyd yn rhan ganolog o waith Eisteddfod yr Urdd ac enillodd y ddau Dlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, am eu cyfraniad i waith ieuenctid yn lleol ac yn genedlaethol.

Dywedodd yr Urdd eu bod yn rhoi teyrnged i'r ddau "gyda thristwch mawr".

"Am flynyddoedd maith roedd Eirian ac Edwin yn rhan annatod o redeg Eisteddfodau Cylch Edeyrnion, Sir Ddinbych a Rhanbarth Uwchradd Fflint a Wrecsam.

"Yn ogystal â hyfforddi cannoedd o blant i gystadlu bu’r ddau yn beirniadu ac yn gwirfoddoli am flynyddoedd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

"Mi fydd colled fawr ar eu holau, ac mae’r Urdd fel mudiad yn anfon cydymdeimlad diffuant at eu teulu."

Bu'r ddau yn lywyddion anrhydeddus pan ddychwelodd Eisteddfod yr Urdd i Sir y Fflint yn 2016.