Eisteddfod yr Urdd 2027: Beth sydd gan Gasnewydd i'w gynnig?

Mali a Heti sy'n (ceisio!) esbonio be allai ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd ei ddisgwyl wrth i Gasnewydd gynnal yr ŵyl am y tro cyntaf erioed yn 2027.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â'r sir tair gwaith yn y gorffennol, ond dyw prifwyl yr Urdd heb wneud hynny hyd yma.

Cyngor Dinas Casnewydd wnaeth estyn y gwahoddiad, ac mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau fe gadarnhaodd y mudiad mai'r sir fydd cartref yr ŵyl ymhen tair blynedd.

Mae'r cyngor yn dweud fod cynnal yr Eisteddfod yn y ddinas yn unol ag amcanion yr awdurdod i gynyddu nifer y plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.