Cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027
- Cyhoeddwyd
Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2027 a hynny am y tro cyntaf erioed.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld tair gwaith yn y gorffennol ond dyw prifwyl yr Urdd heb wneud hynny hyd yn hyn.
Cyngor Dinas Casnewydd wnaeth estyn y gwahoddiad, ac mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau fe gadarnhaodd y mudiad mai'r sir fydd cartref yr ŵyl ymhen tair blynedd.
Mae'r cyngor yn dweud fod cynnal yr Eisteddfod yn y ddinas yn unol ag amcanion yr awdurdod i gynyddu nifer y plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd pennaeth Menter Casnewydd fod teuluoedd o leiafrifoedd ethnig yn gyrru'r twf mewn addysg Gymraeg yn yr ardal.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024
Roedd tua 40 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gwent Is Coed nos Iau, lle cytunodd gwirfoddolwyr a chefnogwyr i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd yn y ddinas yn 2027.
Dywedodd yr Urdd mewn datganiad eu bod nhw a Chyngor Dinas Casnewydd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.
'Cyfle gwych'
"Eisteddfod yr Urdd fyddai'r digwyddiad Cymraeg mwyaf i Gasnewydd ei gynnal ers 2004," meddai'r Cynghorydd Pat Drewett, gan gyfeirio at y tro diwethaf y cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn y sir, ym Mharc Tŷ Tredegar.
Mae'n gyfle hefyd, meddai, i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas.
"Mae'n gyfle gwych, un a allai adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod, ac rydym yn falch i roi cefnogaeth y cyngor i'r cynigion," ychwanegodd.
Agorodd ysgol Gymraeg gyntaf y ddinas ym 1993 ac ers sefydlu Ysgol Gymraeg Casnewydd, mae tair ysgol gynradd Gymraeg arall ac un ysgol uwchradd wedi agor.
Drwy agor y bedwaredd ysgol gynradd Gymraeg ym mis Medi 2021, roedd Cyngor Casnewydd yn gallu cynnig 50% yn fwy o leoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg.
Mae gan y cyngor gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gydag addysg yn ganolog i'r cynllun.
Yn ôl pennaeth Menter Casnewydd, teuluoedd o leiafrifoedd ethnig sy'n gyrru'r twf yn y galw am leoedd mewn ysgolion Cymraeg yn bennaf.
"Mae 'na gymuned amlieithog yng Nghasnewydd - pobl o gefndiroedd ethnig ac o dramor sydd wedi symud yma," meddai Dafydd Henry.
"Efallai eu bod nhw ychydig bach yn fwy agored at ddysgu iaith yn hytrach na meddwl mai dim ond Saesneg sydd ei angen."
Mae o'n amau hefyd bod prisiau tai uwch yng Nghaerdydd yn rhannol gyfrifol am yrru'r twf.
"Mae Casnewydd yn rhatach na Chaerdydd," meddai, "ond mae'r gallu i siarad Cymraeg yn help i gael swyddi yn y de ddwyrain, felly efallai bod hynny'n hwb i'r iaith yma hefyd."
Fel arfer, pwyllgorau neu ymgyrchwyr lleol ac nid cynghorau sir sydd yn gofyn i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'u hardaloedd.
Mae'r Urdd wedi croesawu ymdrechion Cyngor Casnewydd.
"Rydym wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno'n ffurfiol i wahodd Eisteddfod yr Urdd i'r rhanbarth yn 2027," meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i'r mudiad a'r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd."
Ychwanegodd: "Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal."
Mae'r Cynghorydd Emma Stowell-Corten, yr aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, yn dweud ei bod hi'n awyddus iawn i weld yr ŵyl yn dod i Gasnewydd.
"Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr," meddai.