'Golygu lot' cael mosg ar y maes yn dilyn ymosodiadau treisgar
Dywed un o wirfoddolwyr 'mosg' yr Eisteddfod ei fod yn "golygu lot" bod ar y maes wrth i ymosodiadau treisgar mewn rhannau o'r DU barhau yn y penawdau.
"Mae really yn golygu lot i ni fod yma ar yr adeg yma pan mae 'na lot o bethau eitha' scary'n digwydd yn y newyddion, a gweld mewn ffordd i ni bod gyda ni gymorth cymunedau yng Nghymru," meddai Bea Young.
Fe ddechreuodd ymosodiadau treisgar mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon ar ôl i dair merch gael eu lladd yn Southport yr wythnos ddiwethaf.
"Mae'n amser really anodd i bobl yn ein cymuned ni, yn enwedig pobl sy'n wynebu hiliaeth a sy'n weladwy o ran eu crefydd," meddai Ms Young yn y gynhadledd i'r wasg fore Mercher.
Eleni am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod, mae stondin 'y mosg' yn cynnwys llecyn gweddïo yn ogystal â chyfle i ddysgu mwy am hanes y gymuned Fwslemaidd yng Nghymru.
Mae Ms Young yn rhan o grwp Now in a Minute, sy'n ceisio gwella mynediad Mwslemiaid yng Nghymru at ofod creadigol.
Mae hi'n gobeithio bod stondin 'y mosg' yn gwneud y gymuned yn weladwy ar y maes, ac i'r brifwyl "gymryd perchnogaeth dros y gymuned" o'i herwydd.