'Mosg' y maes yn teimlo croeso'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr y ‘mosg’ ar faes yr Eisteddfod yn dweud eu bod wedi cael “lot o bositifrwydd”, wrth iddyn nhw gael stondin yn y Brifwyl am y tro cyntaf.
Daw hynny yn sgil terfysgoedd diweddar a phrotestiadau gwrth-Fwslemaidd ar strydoedd rhai o drefi a dinasoedd Lloegr yn ddiweddar.
Eleni am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod, mae stondin y mosg yn cynnwys llecyn gweddïo yn ogystal â chyfle i ddysgu mwy am hanes y gymuned Fwslemaidd yng Nghymru.
Dywedodd Bea Young bod pobl ar y maes wedi dangos “lot o gefnogaeth” iddyn nhw, a’u bod hwythau’n awyddus i ddatblygu’r berthynas gyda’r Brifwyl at y dyfodol hefyd.
'Pryder am beth sy'n digwydd'
“Mae’n bwysig iawn bod ni yma,” meddai Bea.
“Mae’n wych i deimlo bod ni’n rhan o’r Eisteddfod, a rhan o’r gymuned siaradwyr Cymraeg.”
Cafodd Bea ei magu ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae'n dweud bod gweithio yn yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl a hithau bellach yn Fwslim, wedi amlygu rhai o’r problemau roedd hi’n ei gael fel diffyg lle i addoli.
“Dwi’n teimlo’n awyddus iawn i ddod â phobl o fy nghymuned i fewn i’r Eisteddfod a dangos traddodiadau Cymreig, dangos bod nhw’n perthyn yma.”
Yn naturiol, mae’r terfysgoedd diweddar ac agweddau gwrth-Fwslemaidd rhai o’r protestwyr wedi bod yn bwnc trafod ar y stondin.
“Mae tipyn wedi trafod [hynny] efo ni,” meddai.
“Mae’n deimlad gwych gwybod bod ganddon ni gefnogaeth y rheiny sy’n dod ar y maes.”
Dywedodd Anita Cook, sydd hefyd yn gwirfoddoli ar y stondin: “Mae lot o bobl wedi sôn ac yn pryderu am beth sydd wedi digwydd.
“Ond mae lot o bositifrwydd tuag aton ni, lot o gariad, a ni’n hapus i dderbyn hwnna.”
Ychwanegodd eu bod hefyd wedi bod yn codi pontydd gyda’r rheiny o grefyddau eraill ar y maes.
“Maen nhw’n ymddiddori yn hanes Islam ac yn gofyn lot o gwestiynau,” meddai.
“Maen nhw’n gweld lot o debygrwydd rhwng sut maen nhw ‘di cael eu magu fel Cristnogion, a bywyd Islam.”
'Gwrthsefyll y ffieidd-dra'
Wrth ymweld â stondin y mosg dywedodd AS Dwyrain De Cymru, Peredur Owen Griffiths bod eu presenoldeb yn dangos bod “lot mwy sy’n dod â ni at ein gilydd nag sy’n ein rhannu ni”.
“Mae’n dorcalonnus beth sy’n digwydd mewn gwahanol ardaloedd yn Lloegr ar y funud,” meddai.
“Pan ‘dach chi’n dod i ‘nabod y cymunedau yma ‘dach chi’n gweld bod nhw’n hollol gynhwysol ac yn rhan o’n cymunedau ni.
“Mae’n rhaid i ni ddangos bod Cymru’n gwneud pethau’n wahanol, bod ni’n wlad agored sy’n ymfalchïo yn yr amrywiaeth sydd gyda ni yn ein cymunedau.
“Mae hynny’n ein gwneud ni’n gryfach i wrthsefyll y ffieidd-dra pan mae pobl yn chwipio pobl i fyny i wneud pethau, a’r terfysgoedd yma.”
Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun, dywedodd y prif weithredwr Betsan Moses eu bod yn awyddus i “gynrychioli pob elfen o’r gymuned, a bod yn Eisteddfod sy’n gwbl gynhwysol”.
Roedd hynny, meddai, hefyd yn cynnwys sicrhau bod “artistiaid o bob cefndir yn gallu cael eu gweld a’u clywed ar y maes”.
'Ffordd o addysgu pobl'
Dywedodd Gareth Evans Jones, darlithydd Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor fod y stondin yn "bwysig iawn, oherwydd bod hynny'n ffordd o addysgu pobl o grefyddau a bydolygon amrywiol."
"Gyda chymaint o raniadau a gwrthdaro yn y byd, mae'n bwysig gweithio ar sicrhau cydweithrediad a pharchu amrywiaeth," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud fod "cryn ddatblygu wedi bod, ac mae lle i ddatblygu ymhellach, yn enwedig wrth inni ystyried i ba raddau mae ein cymdeithas yn un oddefgar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst