Jac Morgan: Chwarae gyda'r Llewod yn 'gyfle i ddysgu'
Mae capten Cymru Jac Morgan yn dweud y bydd bod yn rhan o garfan Y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia dros yr haf yn ei helpu i ddatblygu a gwella ymhellach fel chwaraewr.
Dim ond dau Gymro sydd wedi eu henwi yn y garfan – y mewnwr Tomos Williams ydi'r chwaraewr arall o Gymru sydd wedi ei ddewis.
Dyma fydd y nifer lleiaf o Gymry i fod yn rhan o garfan Y Llewod ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn y cyfnod modern, 1993 oedd y nifer lleiaf cyn hyn, pan oedd pump yn rhan o'r garfan a ddewiswyd i deithio Seland Newydd.