Morgan a Williams yr unig Gymry yng ngharfan y Llewod

Jac Morgan ydy capten Cymru
- Cyhoeddwyd
Dau Gymro yn unig – Jac Morgan a Tomos Williams - sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan y Llewod i deithio Awstralia yr haf hwn.
Dyma fydd y nifer lleiaf o Gymry i fod yn rhan o garfan y Llewod ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn y cyfnod modern, 1993 oedd y nifer lleiaf cyn hyn, pan oedd pump yn rhan o'r garfan a ddewiswyd i deithio Seland Newydd.
Mae cynrychiolaeth Cymru ar y daith eleni yn gyfartal gyda'r ddau ddewiswyd o Iwerddon ar gyfer 1993, a dau o'r Alban ar gyfer teithiau 2009 a 2017.
Mae prif hyfforddwr y Llewod, Andy Farrell, wedi dewis 15 chwaraewr o Iwerddon, 13 o Loegr ac wyth o'r Alban, yn ogystal â'r ddau Gymro, mewn carfan o 38.

Mae Tomos Williams wedi creu argraff gyda Chaerloyw y tymor hwn
Cyn-asgellwr Cymru a'r Llewod, Ieuan Evans, gyhoeddodd enwau'r garfan yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd y Llewod a rheolwr y daith.
Bydd y ddau Gymro - capten Cymru a blaenasgellwr y Gweilch Morgan a mewnwr Caerloyw Williams - yn teithio gyda'r Llewod am y tro cyntaf.
Clo'r Saracens Maro Itoje fydd yn gapten - y Sais cyntaf i ymgymryd â'r rôl ers Martin Johnson yn 2001.
Roedd Itoje wedi dod yn ffefryn wedi iddi ddod i'r amlwg bod capten Iwerddon Caelan Doris angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
Bydd y Llewod yn wynebu Ariannin yn Nulyn ar nos Wener, 20 Mehefin, gyda'r gêm gyntaf yn Awstralia ddydd Sadwrn, 28 Mehefin yn erbyn Western Force yn Perth.
Daw'r cyntaf o'r gemau prawf yn erbyn y Wallabies ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf yn Brisbane.
Bydd yr ail brawf ym Melbourne wythnos yn ddiweddarach, cyn daw'r daith i ben yn Sydney gyda'r trydydd prawf ar 2 Awst.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr
Tadhg Beirne (Munster/Iwerddon), Ollie Chessum (Caerlŷr/Lloegr), Jack Conan (Leinster/Iwerddon), Luke Cowan-Dickie (Sale/Lloegr), Scott Cummings (Glasgow/Yr Alban), Tom Curry (Sale/Lloegr), Ben Earl (Saracens/Lloegr), Zander Fagerson (Glasgow/Yr Alban), Tadhg Furlong (Leinster/Iwerddon), Ellis Genge (Bryste/Lloegr), Maro Itoje (Saracens/Lloegr - capten), Ronan Kelleher (Leinster/Iwerddon), Joe McCarthy (Leinster/Iwerddon), Jac Morgan (Gweilch/Cymru), Henry Pollock (Northampton/Lloegr), Andrew Porter (Leinster/Iwerddon), James Ryan (Leinster/Iwerddon), Pierre Schoeman (Caeredin/Yr Alban), Dan Sheehan (Leinster/Iwerddon), Will Stuart (Caerfaddon/Lloegr), Josh van der Flier (Leinster/Iwerddon)
Olwyr
Bundee Aki (Connacht/Iwerddon), Elliot Daly (Saracens/Lloegr), Tommy Freeman (Northampton/Lloegr), Jamison Gibson-Park (Leinster/Iwerddon), Mack Hansen (Connacht/Iwerddon), Huw Jones (Glasgow/Yr Alban), Hugo Keenan (Leinster/Iwerddon), Blair Kinghorn (Toulouse/Yr Alban), James Lowe (Leinster/Iwerddon), Alex Mitchell (Northampton/Lloegr), Garry Ringrose (Leinster/Iwerddon), Finn Russell (Caerfaddon/Yr Alban), Fin Smith (Northampton/Lloegr), Marcus Smith (Harlequins/Lloegr), Sione Tuipulotu (Glasgow/Yr Alban), Duhan van der Merwe (Caeredin/Yr Alban), Tomos Williams (Caerloyw/Cymru)