Symud o Ysbyty Tregaron yn 'dipyn o ofid i dad'

Fe fydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfarfod ddydd Iau i drafod dyfodol Ysbyty Tregaron.

Maen nhw'n cynnig cau'r ysbyty er mwyn darparu gwasanaethau i gleifion yn eu cartrefi.

Dywed y bwrdd y byddai mwy o gleifion yn derbyn gofal dan y cynllun newydd.

Mae gan Ysbyty Tregaron welyau ar gyfer naw o gleifion mewnol, ac mae'r BBC ar ddeall fod pedwar claf yn derbyn gofal yno ar hyn o bryd.

Un ohonyn nhw, ar ôl disgyn yn ddiweddar, yw Rhythwyn Evans, 95, sy'n aros am becyn gofal cyn gallu gadael.

Yn ôl ei fab, Dai Charles Evans, mae ansicrwydd dros le fydd yn mynd nesaf yn destun gofid i'w dad, a gafodd ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore yn ystod y pandemig i godi dros £50,000 i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.