Bwriad i gau Ysbyty Tregaron yn 'siom' ac yn 'warth'

Disgrifiad,

Dywedodd Elin Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd, fod y newyddion yn "sioc"

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o drigolion Tregaron yn flin wedi i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gadarnhau eu bod yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gau yr ysbyty lleol.

Yn ôl rhai sy'n byw yn y dre ac sydd ag anwyliaid wedi bod yn yr ysbyty, mae'r bwriad yn "warthus" ac maen nhw'n dadlau bod angen ysbyty cymunedol fel yr un yn Nhregaron i ryddhau gwelyau yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth.

Dywed Elin Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd, fod yr ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysbyty sydd â naw gwely yn "newyddion difrifol iawn" a bod yna addewid na fyddai unrhyw newid nes y byddai Cylch Caron yn agor.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda mae diffyg staff yn ei gwneud hi'n "heriol" i ddarparu gofal i gleifion yn yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd lansiad swyddogol o gynllun Cylch Caron yn Nhregaron yn 2016 pan gafodd y darn o dir ei brynu gydag arian Llywodraeth Cymru

Mae cynllun Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cynnwys, medd y bwrdd iechyd "meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig".

Yn 2016 cafodd safle gwerth £727,000 ei brynu i adeiladu'r ganolfan.

Yn 2020 cafodd y cynllun ei atal yn sgil heriau ariannol ond wythnos diwethaf fe wnaeth Cyngor Sir Ceredigion wahodd tendrau ar gyfer dylunio ac adeiladu'r ganolfan.

"Bydd y cynllun hwn yn darparu model gwledig integredig ar gyfer gofal a thai cymunedol ac yn cymryd lle Cartref Gofal Preswyl Bryntirion... ac yn mynd i'r afael â breuder y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau yn Ysbyty Tregaron," medd llefarydd.

'Dim digon o staff'

"Er gwaethaf ymdrechion i recriwtio i swyddi, nid yw ein lefel bresennol o staffio yn ddigonol, ac mae ein rota staffio yn fregus," medd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Mae ein staff wedi lleisio pa mor heriol yw cefnogi ein cleifion drwy ein model gofal presennol yn Ysbyty Tregaron.

"Ein cynnig yw symud ein staff o fod yn yr ysbyty a gofalu am y naw gwely, i fod yn y gymuned. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi.

"Mae cleifion wedi rhannu'n gyson y byddai'n well ganddyn nhw fod gartref, neu'n agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i alluogi eu hadferiad. Byddwn yn gweithio gyda'n cleifion a'u teuluoedd, a'n cymuned ehangach, i ddeall eu barn yn ystod y cyfnod ymgysylltu arfaethedig."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd colli'r ysbyty yn golled enfawr - nid dim ond i Dregaron ond i ardal ehangach, medd Cyril Evans

Yn ôl Cyril Evans, sydd wedi byw yn y dre gydol ei oes, dyw "gofal yn y cartref ddim yn ddigonol yn enwedig i rai sy'n byw ar ben eu hunain".

"Bydd colli'r ysbyty yn golled enfawr - nid dim ond i Dregaron ond i ardal ehangach. Mae'r staff yno yn cynnig gofal amhrisiadwy - y math o ofal sydd ei angen ar gleifion cyn iddyn nhw fynd adref.

"Maen nhw hefyd yn cynnig gofal lliniarol ond yn fwy na hynny mae'r ysbyty yn sicrhau lle i gleifion salach ym Mronglais.

"Pryd fydd Cylch Caron yn agor? Dwi am i'r feddygfa fod yno ond fydd y ganolfan ddim yn gallu darparu'r un gofal â'r hyn sydd ar gael yn yr ysbyty nag yng nghartref Bryntirion.

'Adnodd hanfodol'

"Mae'n amhosib rhoi pris ar ofal iechyd. Mae e mor bwysig â'r heddlu, y frigâd dân, a'r holl wasanaethau brys.

"Mae'n adnodd hanfodol ac nid yn fraint. Mae ein cymunedau yn heneiddio ac felly dylai mwy o arian cael ei fuddsoddi ac nid llai. Dydi'r penderfyniad ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. "

Dywed hefyd ei fod yn poeni am gael adeilad gwag arall yn y dre.

"Eisoes mae adeilad yr ysgol gynradd yn wag, hefyd yr hen ysgol uwchradd - ac mae adeilad yr ysbyty yn un sylweddol - dydyn ni ddim eisiau adeilad arall gwag."

Disgrifiad o’r llun,

Y ddiweddar Margaret Morgan a'i hwyres Rhian

Bu mam Angharad Morgan yn Ysbyty Tregaron yn 2017-18 ac mae Angharad ac eraill wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol fod y penderfyniad i gau'r ysbyty yn "siomedig" a "gwarthus".

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Buodd yn fam i yn Ysbyty Bronglais am dri mis - o'dd y gofal yn wych ond eto o'n nhw mor brysur 'na o'n nhw methu codi hi allan o'r gwely rhan fwyaf o'r diwrnodau.

"Ga'th hi ei throsglwyddo i Dregaron a fuodd hi yna am bedwar mis. Yn y cyfnod yna aethon nhw above and beyond i helpu ac ar ddiwedd y dydd na'th hi lwyddo i gerdded allan o'r ysbyty."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Angharad Morgan bod ei mam wedi cael gofal arbennig yn Nhregaron

"Angen amser o'dd ar Mam. Yn Nhregaron o'dd 'na rhywun yna i helpu hi gyda'r ymarfer corff, i ga'l hi nôl ar ei thra'd.

"O'dd y lle yn grêt - yn le rehab arbennig a ddim yn rhy fawr - o'dd amser gyda'r staff i helpu i gael hi nôl ar ei thra'd lle ma' staff Bronglais o dan gymaint o bwysau," ychwanegodd Angharad Morgan.

"Mae'n sioc i glywed fod y bwrdd iechyd nawr yn bwriadu cau'r gwlâu yn Ysbyty Tregaron," ychwanegodd Elin Jones AS.

"Y bwriad ar hyd yr amser oedd fod yna ddatblygiad newydd yn dod i gymuned Tregaron sef Cylch Caron a pan fyddai'r datblygiad yna, y safle newydd yna'n barod yna fyddai yna drosglwyddo cyfrifoldebau gofal i'r safle newydd.

"Felly mae hwn wedi dod o unman - yn sioc i'r gymuned yn gyfan fod y gwelyau yma'n cau... pobl sâl iawn sydd yn Ysbyty Tregaron ac mae'n codi cwestiwn ynglŷn â phwy arall a le arall fydd y bobl yma yn y dyfodol yn cael y gofal?"

'Addas ar gyfer heddiw'

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Meddyg Teulu lleol Tregaron: "Mae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o'n cymuned leol ers nifer o flynyddoedd, ac mae angen i ni ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i'n cymuned sy'n diwallu eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol.

"Mae'r Ganolfan yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a buddion i bobl yn yr ardal. Bydd hyn yn dod ag ystod o wasanaethau ynghyd mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos.

"Bydd y prosiect yn creu model gwledig arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal, sy'n addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer yfory."

Bydd y cynnig i ddatgomisiynu’r naw gwely a’r cyfnod ymgysylltu yn cael eu trafod yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar 25 Gorffennaf.

Bydd y cyfnod o ymgynghori yn para am bedair wythnos gan ddechrau ar 1 Awst ac mae disgwyl y penderfyniad ym mis Medi.