Josh Adams yn 'falch o fod nôl' wedi blwyddyn rwystredig

Mae Josh Adams yn falch o fod 'nôl yn nhîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc nos Wener yn dilyn blwyddyn rwystredig gydag anafiadau.

Tydi'r asgellwr heb chwarae dros Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad y llynedd, gan golli'r daith haf i Awstralia yn ogystal â Chyfres yr Hydref oherwydd anafiadau.

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Adams hefyd ei fod yn falch o weld y cefnwr Liam Williams yn dychwelyd i'r tîm ar ôl iddo ailymuno â'r Saracens yn Lloegr yn dilyn cyfnod yn chwarae yn Japan.

Mae Adams a Williams wedi eu cynnwys yn y 15 fydd yn dechrau'r gêm ym Mharis nos Wener.