Chwe Gwlad: Lloyd a Thomas i ddechrau am y tro cyntaf yn erbyn Ffrainc

Henry Thomas ac Evan LloydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Henry Thomas ac Evan Lloyd yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi dewis dau chwaraewr fydd yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe fydd bachwr Rygbi Caerdydd, Evan Lloyd, 23, a phrop pen-tynn y Scarlets, Henry Thomas, 33, yn dechrau yn y rheng flaen yn erbyn Ffrainc nos Wener.

Ond mae digon o brofiad mewn rhannau eraill o'r tîm - gyda Liam Williams, Tomos Williams a Josh Adams i gyd yn y 15 fydd yn dechrau ym Mharis.

Mae Aaron Wainwright hefyd wedi ei gynnwys yn y rheng ôl, er gwaetha'r pryderon am ei ffitrwydd.

Jac Morgan fydd yn gapten ar y tîm, gyda James Botham ac Aaron Wainwright yn ymuno ag ef yn y rheng ôl.

Will Rowlands fydd partner Dafydd Jenkins yn yr ail reng.

Mewnwr Caerloyw, Tomos Williams fydd yn dechrau yn y crys rhif naw, gyda Ben Thomas wedi ei ddewis yn safle'r maswr.

Dyma fydd y tro cyntaf i Thomas ddechrau gêm i Gymru yn y Chwe Gwlad.

Owen Watkin a Nick Tompkins sydd wedi eu dewis fel canolwyr, gyda Tom Rogers a Josh Adams yn asgellwyr.

Mae Dan Edwards wedi ei gynnwys ar y fainc, a pe bai'r maswr ifanc yn chwarae rhan yn y gêm, dyma fyddai ei gap cyntaf dros ei wlad.

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jac Morgan fydd capten Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Gareth Thomas fydd yn dechrau yn y rheng flaen, gydag Evan Lloyd a Henry Thomas.

Mae Lloyd wedi chwarae mewn pum gêm i Gymru yn y gorffennol, ond roedd pob un o'r ymddangosiadau hynny fel eilydd.

Mae Thomas hefyd wedi chwarae pedair gêm brawf i Gymru fel eilydd ers iddo ddewis cynrychioli Cymru yn 2023.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Ry'n ni'n wirioneddol edrych ymlaen at yr her yn erbyn Ffrainc.

"Y Chwe Gwlad yw'r Bencampwriaeth rygbi orau yn y byd gan fod pob gêm yn achlysur anferth," meddai.

Adam JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Jones bellach wedi ymuno a thîm hyfforddi Cymru

Yn y cyfamser, mae wyneb cyfarwydd i gefnogwyr rygbi Cymru wedi ymuno a'r tîm hyfforddi cyn y gêm fawr yn erbyn Ffrainc.

Mae Adam Jones - enillodd 95 o gapiau rhyngwladol - wedi cael caniatâd i adael ei glwb am gyfnod er mwyn dechrau yn ei rôl fel hyfforddwr fydd yn canolbwyntio ar y sgrym.

Ers ymddeol o'r gamp yn 2018, mae Jones wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi'r Harlequins.

Dywedodd Jones fod bod yn ôl gyda'r garfan "yn teimlo fel y diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol" ond ei fod yn edrych ymlaen i gynnig "llais gwahanol".

Tîm Cymru

Liam Williams; Tom Rogers, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Ben Thomas, Tomos Williams; Gareth Thomas, Evan Lloyd, Henry Thomas, Will Rowlands, Dafydd Jenkins, James Botham, Jac Morgan (C), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas, Tommy Reffell , Rhodri Williams, Dan Edwards, Blair Murray.

Tîm Ffrainc

Ramos; Attissogbe, Barassi, Moefana, Bielle Biarrey; Ntamack, Dupont (C); Gros, Mauvaka, Atonio, Roumat, Meafou, Cros, Boudehent, Alldritt.

Eilyddion: Marchand, Baille, Colombe, Guillard, Auradou, Jegou, Le Garrec, Gailleton.

Pynciau cysylltiedig