Gobaith y bydd rali yn hwb i economi Ceredigion
Am y tro cyntaf erioed, mae un o gymalau Pencampwriaeth Ralïo Ewrop yn cael ei gynnal yn ystod Rali Ceredigion.
Mae’r digwyddiad, sy’n dechrau yn Aberystwyth, eisoes yn cyfrannu dros £3m i economi'r rhanbarth.
Gyda’r digwyddiad yn denu ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r byd, gobaith y trefnwyr yw y bydd statws newydd Rali Ceredigion yn denu cynulleidfa ryngwladol ehangach i’r sir.
Dywedodd Cerith Jones, sy'n cystadlu yn Rali Ceredigion eleni am y tro cyntaf: "Mae e gyd yn newydd i fi a fi'n siŵr bydd e'n gwd sbort".
Ychwanegodd mai'r nod yw "bennu a chael sbort yn neud e".
"Bydd lot o fois o dramor a cheir mawr, arian mawr ac i fi gael dilyn nhw ar yr un hewlydd, mae'n privilege rili".
Er ei fod yn cydnabod bod nifer yn anhapus bod lonydd yn cau, mae o'r farn y bydd y rali yn cael effaith economaidd gadarnhaol ar yr ardal.