Pencampwriaeth Ralïo Ewrop yn ymweld â Cheredigion

Disgrifiad,

Cerith Jones sy'n edrych ymlaen at Rali Ceredigion

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed, mae un o gymalau Pencampwriaeth Ralïo Ewrop yn cael ei gynnal yn ystod Rali Ceredigion.

Mae’r digwyddiad, sy’n dechrau yn Aberystwyth, eisoes yn cyfrannu dros £3m i economi'r rhanbarth.

Gyda’r digwyddiad yn denu ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r byd, gobaith y trefnwyr yw y bydd statws newydd Rali Ceredigion yn denu cynulleidfa ryngwladol ehangach i’r Sir.

Criw lleol yn cystadlu yn erbyn gyrwyr Ewropeaidd

Wedi bod yn ralïo ers yn 15 mlwydd oed, mae James Williams, 26 o Gastell Newydd Emlyn yn gyffrous bod y rali’n symud i’r gêr nesaf.

“Mae’r rali nawr yn rhan o’r European Rally Championships, so step lan i’r rali.

"Ma’ bois yn dod o Ewrop i gystadlu fan hyn a gewn ni weld y bois lleol yn erbyn yr European boys.”

Ar ôl gorffen yn drydydd yn Rali Ceredigion y llynedd, mae’n cydnabod y bydd cystadlu yn erbyn gyrwyr Ewropeaidd yn ‘anodd’, ond bod hyder yn hollbwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Williams bydd cystadlu yn erbyn gyrwyr Ewropeaidd yn ‘anodd’

“Fi’n eitha’ interested i weld ble fyddwn ni o ran yr European Rally Championship.

"Ni wedi enter’o y rally championship hefyd, felly, sialens massive ond ni’n joio fe, joio’r gamp gyda’r bois, tîm lleol hefyd, fi’n edrych ymlaen.

"Dw’i jyst yn focused ar y flow yn y car, cael y rhythm yn iawn yn y car, dwi’n confident byddwn ni’n gallu gwneud y stages... so confidence yn eithaf key a jyst cael y car yn iawn, parts newydd a barod i fynd.”

Ei dad, Mark Williams, yw rheolwr James.

Er iddo fod yn ralïo ei hun ers 1987, mae e’n teimlo’r nerfau, gan ddisgrifio Rali Ceredigion fel "big status rally".

Dywedodd ei fod yn “becso’n rhacs!” ac y bydd bydd yn "cerdded ambyti’r lle" gan ddilyn y daith ar y ffôn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Williams y bydd yn dilyn y cyfan trwy'r penwythnos

Mae dros 140 o gystadleuwyr o 14 o wledydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, sy’n dri diwrnod o hyd.

Wedi ei sefydlu yn 2019, mae Rali Ceredigion wedi’i chydnabod yn y gorffennol am fod yn un o rasys fwyaf cynaliadwy’r byd.

Eleni, am y tro cyntaf, mae’r daith 183km hefyd yn ymweld â siroedd cyfagos Caerfyrddin a Phowys.

Mae ardaloedd megis Brechfa, cronfa ddŵr eiconig Llyn Brianne a Nant-y-Moch yn rhan o’r 14 cymal.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Cerith Jones ralio fel "cyffur... unwaith chi'n dechrau, allwch chi ddim stopio"

Ar ôl pasio ei brawf gyrru, prynodd Cerith Jones o Dyn-y-graig ger Pontrhydfendigaid gar rali cyn cael car ffordd.

Mae'n dweud bod ralïo yn ei waed.

“Mae e fel cyffur! Unwaith chi'n dechrau, allwch chi ddim stopio," meddai.

Mae e wedi gyrru mewn tua 40 o ralïau nos ond Rali Ceredigion yw’r digwyddiad ffordd gaeëdig cyntaf iddo gymryd rhan ynddo, a hynny yn ei Ford Escort Mark 2.

“Mae hwn yn gam mawr i fi. Mae’r European Rally Championship yn dod â gyrwyr gwell a thorfeydd mwy.

"Mae’n dda i’r gymuned – trïwch gael stafell mewn gwesty yn ardal Aberystwyth, chi ddim yn mynd i gael un!” meddai.

'Miloedd yn dod mewn i’r dref a’r ardal'

Mae Emlyn Jones yn berchen Cwmni Diogel, sy’n gyfrifol am ddiogelwch y digwyddiad.

Fe hefyd yw cadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth, a fydd yn croesawu gwylwyr sy’n dilyn y rali.

Mae’r ffaith bod un o gymalau Pencampwriaeth Ralio Ewrop yn rhan o Rali Ceredigion eleni yn codi statws y rali, meddai.

“Safon y gyrrwyr, safon y ceir, gwneuthurwyr ag ati, mae ‘na ddilyniant mawr i ni yn y dref ‘ma.

“Mae’r clwb rygbi, mae llond lle o motorhomes a mae’r gwestai lleol, ystafelloedd y brifysgol, miloedd yn dod mewn i’r dref a’r ardal” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rali yn cael ei chynnal rhwng 30 Awst ac 1 Medi

Mae’r digwyddiad yn cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Ceredigion a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae'r Cyngor wedi cyflwyno £250mil (£150mil o gyllid UKSPF + cyllideb economi o £100mil) i gefnogi Rali Ceredigion.

"Cytunodd y Cyngor i warantu £250mil arall os bydd diffyg wrth gynnal y digwyddiad ar ôl derbyn nawdd a gwerthu tocynnau."

Dywedon nhw fod cefnogi digwyddiadau o'r fath yn "rhan allweddol o Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor i hybu'r economi."

Dywedodd trefnwyr Rali Ceredigion fod gwarchod yr amgylchedd hefyd yn flaenoriaeth. Maent yn credu fod y digwyddiad yma yn gosod record newydd ar gyfer gwrthbwyso carbon o fewn ralïo.

Ymgais i leihau lefelau CO2

Dywedodd Huw Davies, Rheolwr Cynaliadwyedd Rali Ceredigion ei bod hi'n "bwysig" i leihau'r lefelau CO2 eleni.

"Mae’r CO2 levels yn bwysig iawn i ni. Ni’n trio tynnu rheina lawr," meddai.

“Mae carbon positive source gyda ni blwyddyn hyn ac am y tro cynta’ ni’n plannu coed yn Abergavenny so ma' coedwigoedd yn Abergavenny ar gyfer rheiny. Ni’n trio displaceo y CO2.”

Wrth gyfeirio at y digwyddiad, dywedodd: “Dim ond am bedair blynedd mae’r event hyn wedi rhedeg, ma’ gymaint o bobl yn edrych ar yr event hyn nawr, so mae’n bwysig bo ni’n tynnu’r safon lan hefyd.”

Cynhelir y rali eleni rhwng 30 Awst ac 1 Medi.

Pynciau cysylltiedig