O'r archif: Agor reid Vertigo yn Oakwood yn 1997
Beth yw eich atgofion chi o Oakwood?
Mae'r cwmni sy'n berchen ar barc antur mwyaf Cymru wedi cyhoeddi y bydd y safle yn Sir Benfro yn cau ar unwaith.
Mewn datganiad, dywedodd Aspro Parks Group fod y penderfyniad yn un "arbennig o anodd" ac wedi'i wneud ar ôl adolygiad strategol o'r busnes.
Dyma eitem o raglen Newyddion yn 1997 wrth i'r parc agor reid newydd, Vertigo.