Parc antur mwyaf Cymru, Oakwood i gau ar unwaith

Disgrifiad,

O'r archif: Agor reid Vertigo yn Oakwood yn 1997

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy'n berchen ar barc antur mwyaf Cymru, Oakwood wedi cyhoeddi y bydd y safle yn Sir Benfro yn cau ar unwaith.

Mewn datganiad, dywedodd Aspro Parks Group fod y penderfyniad yn un "arbennig o anodd" ac wedi'i wneud ar ôl adolygiad strategol o'r busnes.

Dywedodd y cwmni fod yr hinsawdd economaidd wedi cyflwyno heriau sylweddol, a bod pob llwybr posib wedi cael ei archwilio i geisio osgoi'r cau.

Roedd y parc - sy'n cyflogi hyd at 200 o bobl - wedi cau ar gyfer misoedd y gaeaf, ond roedd disgwyl iddo ailagor yn y misoedd nesaf.

OakwoodFfynhonnell y llun, Diary of a RollerCoaster Girl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oakwood wedi bod yn un o brif atyniadau'r de-orllewin ers ei agor yn 1987

"Er gwaethaf y buddsoddiad parhaus, mae niferoedd yr ymwelwyr wedi gostwng, ac mae perfformiad ariannol y parc wedi dirywio, gan olygu nad yw buddsoddi pellach yn gynaliadwy," meddai'r cwmni.

"Mae cynnydd mewn costau gweithredu, gan gynnwys prisiau trydan, chwyddiant mewn bwyd a diod, cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, a newidiadau i'r trothwyon Yswiriant Gwladol, wedi dylanwadu ar y penderfyniad hwn."

Ers prynu'r parc yn 2008 a'i achub rhag cau, dywedodd Aspro Parks eu bod wedi buddsoddi dros £25m yn y safle.

Yn ddiweddar, cafodd gwaith adnewyddu mawr ei gwblhau ar y reid Megafobia.

Hayley WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hayley Williams o Bont-y-pŵl wedi ymweld ag Oakwood sawl gwaith cyn ei marwolaeth

Mae'r parc wedi bod yn y penawdau ambell waith yn y blynyddoedd diwethaf am faterion diogelwch llai difrifol.

Ond yn 2004, bu farw Hayley Williams, 16 oed, ar ôl syrthio 100 troedfedd (30m) oddi ar reid Hydro.

Yn 2006 fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) na fyddai neb yn wynebu achos cyfreithiol yn dilyn ei marwolaeth.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd cwmni Oakwood Leisure, oedd yn rhedeg yr atyniad pan fu Hayley farw, ddirwy o £250,000 ar ôl cyfaddef nad oedd staff wedi sicrhau fod teithwyr wedi eu diogelu ar y reid.

Bu'n rhaid cau Hydro am flwyddyn ar ôl marwolaeth Hayley Williams yn 2004, ac fe gafodd rhwystrau diogelwch newydd eu gosod pan gafodd ei ailagor. Dyma reid hydro yn 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau Hydro am flwyddyn ar ôl marwolaeth Hayley Williams yn 2004, ac fe gafodd rhwystrau diogelwch newydd eu gosod pan gafodd ei ailagor

Dywedodd llefarydd ar ran Aspro Parks: "Yn holl hanes Aspro, nid ydym erioed wedi cau unrhyw barc nac atyniad.

"Rydym ni a'n tîm ymroddedig wedi ymdrechu'n ddiflino i oresgyn sawl her i barhau i ddod â llawenydd i deuluoedd ac ymwelwyr ledled y rhanbarth a'r wlad.

"Yn anffodus, doedd dim modd i ni weld ffordd gynaliadwy ymlaen ac felly byddwn yn ceisio gwella ein parciau eraill gan ddefnyddio'r asedau ac, os yn bosib, roi cyfleoedd i'n staff mewn lleoliadau eraill."

OakwoodFfynhonnell y llun, Ifan Jones

Dywedodd y cwmni fod Oakwood wedi bod yn "gyrchfan annwyl i genedlaethau, ac yn brofiad arbennig i lawer o ymwelwyr ifanc".

"Mae hyn yn gwneud y penderfyniad yn un arbennig o anodd," meddai'r cwmni.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Rowland Rees-Evans, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, fod hyn yn "ergyd sylweddol i Sir Benfro".

"Ond dwi'n credu ma' fe'n ehangach na hynny, ma' gorllewin Cymru, chi'n gwbo', ma' pobl lan yn Aberystwyth, a pobl yn mynd lan o fan hyn yn aml wrth ymyl ni."

Rowland Rees-Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cau'r parc yn "ergyd fawr, fawr" meddai Rowland Rees-Evans

Aeth ymlaen i ddweud mai Oakwood ydy'r "parc mwyaf oedd da ni yng Nghymru".

"Felly ni ddim yn gwbo be' fydd yr impact o Oakwood yn cau eto, ond fi'n siŵr bydd impact mawr dros y diwydiant twristiaeth."

Ychwanegodd bod y parc antur yn "gyflogwr mawr" yn yr ardal: "Fi'n credu fod cyflogaeth lletygarwch a thwristiaeth yn tua 20% yn Sir Benfro, a ma' 'da chi 200 o bobl yn gweithio yma.

"Felly mae'n ergyd fawr, fawr, nid yn unig i Sir Benfro - ond i'r diwydiant ac i Gymru gyfan."

'Un o atyniadau amlycaf Cymru'

OakwoodFfynhonnell y llun, Diary of a RollerCoaster Girl

Perchnogion Oakwood ydy'r diweddaraf o'r byd busnes i feirniadu'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a chynnydd yn y cyflog byw fydd yn dod i rym o fewn yr wythnosau nesaf.

Tra bod y sector cyhoeddus yn aros am fanylion mesurau gall eu gwarchod rhag effaith codi yswiriant gwladol, mae'r sector preifat wedi gorfod paratoi ar gyfer y newid ac addasu eu cyllidebau a'u gwariant.

Yn dilyn cynnydd mewn costau ers y pandemig sydd wedi codi prisiau nwyddau a gwasanaethau, mae cwmnïau a'u grwpiau lobïo wedi rhybuddio y bydd swyddi'n cael eu colli wrth i'r codiadau diweddaraf ddod i rym.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn hanfodol i wella cyllid ein gwasanaethau cyhoeddus.

Yn Sir Benfro bydd effaith cau Oakwood yn taro'r economi leol, a bydd pryderon am y newidiadau economaidd sydd wedi cau'r drysau ar un o atyniadau twristiaeth amlycaf Cymru.

Dan Llyr-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dan Llyr-Griffiths bod rhywbeth "nostalgic" am barc Oakwood fel un dyfodd i fyny yn yr ardal

Yn ôl Dan Llyr-Griffiths o Fynachlog-Ddu, Sir Benfro, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, doedd y parc heb gael unrhyw atyniadau newydd yn ddiweddar.

"Dros y blynydde' mae Oakwood wedi dirywio'n naturiol, a dyw e ddim wedi cael unrhyw atyniadau newydd.

"Sy' wrth gwrs ddim yn denu pobl yn dod yr holl ffordd i Sir Benfro, a dyw e' ddim yn gallu cystadlu gyda theme parks mwya' Prydain fel Thorpe Park."

Ychwanegodd: "Ma'n golled i'r sir, ma'n golled wrth gwrs bod swyddi yn cael eu colli.

"Ma' rhywbeth nostalgic wastad wedi bod am Oakwood, ac yn anffodus fydd o ddim ar gael byth 'to."

Gwenno GriffithsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n drist iawn i glywed bod Oakwood yn cau," meddai Gwenno Griffiths

Un arall sy'n drist am y newyddion ydy Gwenno Griffiths o Gaerfyrddin, sy'n cofio sŵn clecian y pren o reid y Megafobia.

"Mae'n drist iawn i glywed bod Oakwood yn cau, lot o atgofion gyda fi'n mynd na'n blentyn gyda ffrindiau a teulu.

"Just gofidio really o ran twristiaeth yr ardal, gobeithio bydd dim lot o effaith ar hyn.

"Lot o bobl yn dod yma ar wylie ac ati, fi'n siŵr ma' lot o bobl yn gallu cytuno bod sŵn clecian y pren yn eiconig iawn really, o ran y Megaphobia.

"Fin cofio bron ac ysu gallu tyfu fyny, i gael mynd ar Speed hefyd."

'Ergyd ddifrifol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion gofidus i weithwyr Oakwood, eu teuluoedd a'r gymuned leol.

"Rydyn ni'n barod i gynnig cefnogaeth i'r gweithlu sydd wedi ei effeithio gan y penderfyniad hwn."

Ar ran Plaid Cymru dywedodd Cefin Campbell AS bod y newyddion yn "ergyd ddifrifol i Sir Benfro a gorllewin Sir Gâr".

"Nid yn unig fod yr atyniad yn gyflogwr pwysig, ond mae hefyd yn atyniad twristaidd sylweddol sy'n hwb enfawr i economi'r ardal," meddai.

Dywedodd Samuel Kurtz, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hefyd fod y newyddion yn "adlewyrchiad trist o'r heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth a'r economi yn ehangach".

Pynciau cysylltiedig