'Rhyddhad' adfer enw da wedi 13 mlynedd o 'hunllef'
Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam am ddwyn 13 mlynedd yn ôl wedi cael gwybod fod ei euogfarn wedi'i dileu.
Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.
Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, fe ddisgrifiodd yr wythnos fel un "ddirdynnol".
Dywedodd fod ganddo deimladau "cymysg iawn, ac mae dal yn cymryd amser i gymryd popeth i mewn sydd wedi digwydd."
Dywedodd fod y newyddion "wedi ailagor rhywfaint o friwiau" ond ei fod yn "rhyddhad i gael clirio'n enw ar ôl 13eg blynedd o hunllef".
Wrth edrych 'nôl ar y cyfnod tywyll yn ei fywyd, dywedodd ei fod yn "deimlad ofnadwy, roeddwn eisoes yn dioddef rhywfaint o iselder a phroblemau iechyd meddwl, ac roedd panig llwyr yn cymryd drosodd".
"Ro' ni'n byw i helpu pobl a helpu cymuned... dyna o ni wedi trio neud dros fy ngyrfa ac i weld hynny i gyd yn trio cael ei ddinistrio," meddai.
Cymrodd y cyfle hefyd i ddiolch i'w deulu a'r gymuned leol am eu cefnogaeth yn trwy'r amseroedd anodd.
Dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen 'ŵan... cymryd 'chydig wythnosau i ffwrdd" gan ychwanegu ei fod yn "gobeithio cael cyfle i gael gwynt ataf ac adfer iechyd a symud ymlaen".