Dileu euogfarn cyn is-bostfeistr o Wynedd gafodd ei garcharu ar gam

Fe dderbyniodd Dewi Lewis y llythyr deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, MagsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Dewi Lewis y llythyr deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, Mags

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam am ddwyn 13 mlynedd yn ôl wedi cael gwybod fod ei euogfarn wedi'i dileu.

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.

Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.

Dywedodd Mr Lewis wrth Cymru Fyw ei fod wedi derbyn llythyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr wythnos diwethaf yn cadarnhau fod ei euogfarn wedi'i dileu.

"[Mae'n] rhyddhad enfawr [ac wedi] codi baich enfawr ar ôl 13 mlynedd o hunllef," meddai.

Cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo'n anghyfiawn oherwydd gwallau yn system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post, gan arwain at gamweinyddu cyfiawnder ar raddfa eang.

'Lot o emosiwn'

Disgrifiad o’r llun,

Erthygl oddi ar wefan Newyddion BBC Cymru o 2011 yn adrodd ar garcharu Mr Lewis

Clywodd y llys yn 2011 fod tad Mr Lewis, yn 86 oed, wedi ail-forgeisio ei dŷ i dalu'r swm ar ran ei fab.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Y peth mwyaf trist ydy nad ydy fy rhieni yma i weld y llythyr - i weld y gwir yn dod allan.

"Ond dwi wedi bod yn lwcus iawn yn cael cymaint o gefnogaeth gan fy nheulu a'r gymuned.

"[Dwi'n] ddiolchgar iawn i bobl fel Alan Bates a Noel Thomas am eu holl waith.

"Mae lot o emosiwn wedi bod ers derbyn y llythyr."

Fe dderbyniodd Mr Lewis, sy'n 68 oed, y llythyr deuddydd ar ôl iddo briodi ei bartner, Mags.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ychydig ddyddiau hapus iawn i'r pâr priod wythnos diwethaf

Cafodd Mr Lewis ei garcharu am 16 mis yn wreiddiol, ond cafodd ei ostwng i bedwar mis.

Roedd Mr Lewis, a wasanaethodd fel cynghorydd Plaid Cymru ac a weithiodd i Swyddfa’r Post am 26 mlynedd, wedi'i gyhuddo yn wreiddiol o ddwyn £53,629.09.

Dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ei bod yn hynod falch o glywed y newyddion.

Nododd fod y penderfyniad yn adfer enw da Mr Lewis ar ôl blynyddoedd o gam-weithredu gan uwch-reolwyr Swyddfa’r Post.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Liz Saville Roberts - Dwyfor Meirionnydd

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Liz Saville Roberts - Dwyfor Meirionnydd

Pynciau cysylltiedig