Josh Tarling: 'Dim byd o'n i'n gallu gwneud ar ôl pyncjar'

Mae'r Cymro Josh Tarling yn dweud ei fod yn canolbwyntio ar ei ras nesaf ar ôl colli allan ar fedal yn y ras yn erbyn y cloc dydd Sadwrn.

Roedd yn rhaid i'r seiclwr o Aberaeron newid ei feic ar ddechrau'r ras ar ôl cael pyncjar, gan arwain at oedi o tua 15 eiliad.

Er iddo adennill amser, mae'n gorffen dwy eiliad y tu ôl i Wout van Aert o Wlad Belg, a enillodd efydd, a 27 eiliad y tu ôl i'r buddugwr, Remco Evenepoel.

Filippo Ganna o'r Eidal gipiodd y fedal arian.

Bydd y seiclwr 20 oed yn cystadlu mewn ras ffordd dydd Sadwrn, 3 Awst.