Paris 2024: Y Cymro Josh Tarling yn colli allan ar fedal

Disgrifiad,

Josh Tarling: Rhaid anghofio hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Josh Tarling wedi colli allan ar fedal yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis, gan orffen yn bedwerydd.

Roedd yn rhaid i'r seiclwr o Aberaeron newid ei feic ar ddechrau'r ras ar ôl cael pyncjar, gan arwain at oedi o tua 15 eiliad.

Er iddo adennill amser, mae'n gorffen dwy eiliad y tu ôl i Wout van Aert o Wlad Belg, a enillodd efydd, a 27 eiliad y tu ôl i'r buddugwr, Remco Evenepoel.

Filippo Ganna o'r Eidal gipiodd y fedal arian.

Dywedodd y seiclwr 20 oed ar ôl y ras, "gyda'r pyncjar doedd dim byd o'n i'n gallu 'neud" a'i fod nawr yn canolbwyntio ar ei ras nesaf ar ddydd Sadwrn, 3 Awst.

Pynciau cysylltiedig