Miloedd o ffermwyr yn codi llais yn San Steffan
Mae ffermwyr o Gymru wedi teithio i Lundain i brotestio yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth.
Roedd bysus yn llawn ffermwyr wedi gadael sawl man yng Nghymru yn oriau man y bore er mwyn ymuno â'r brotest yn San Steffan.
Yn eu plith oedd bws o Gaerfyrddin, ble dywedodd un ei bod "mor drist a grac 'da'r llywodraeth" dros y cynlluniau.