Ffermwyr yn protestio yn erbyn treth etifeddiaeth yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr o Gymru wedi teithio i Lundain i brotestio yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth.
Roedd bysus yn llawn ffermwyr wedi gadael sawl man yng Nghymru yn oriau man y bore er mwyn ymuno â'r brotest yn San Steffan.
Yn eu plith oedd bws o Gaerfyrddin, ble dywedodd un ei bod "mor drist a grac 'da'r llywodraeth" dros y cynlluniau.
Mae'r newidiadau i'r dreth wedi cael eu beirniadu’n llym gan y sector amaethyddol, gyda rhai ffermwyr yn dweud bydd raid gwerthu tir i'w dalu.
Ond mae Llywodraeth y DU yn mynnu mai nifer fach o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn, a bod y system yn deg.
Pam bod ffermwyr yn protestio?
Cyn y newidiadau, mae hi wedi bod yn bosib trosglwyddo ffermydd o genhedlaeth i genhedlaeth heb orfod talu treth etifeddiaeth.
Ond yn ei chyllideb fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai ffermydd sy' werth dros £1m yn wynebu treth etifeddiaeth yn y dyfodol ar raddfa o 20%, gyda'r opsiwn o'i dalu'n radddol dros gyfnod o 10 mlynedd.
Ers hynny, mae'r llywodraeth wedi honni droeon bod lwfansau eraill yn golygu bod y trothwy mewn gwirionedd yn nes at £3m i nifer, gan olygu y byddai'r newid ond yn targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cefnog, ac yn diogelu ffermydd bach.
Ond dyw hyn ddim wedi llwyddo i leddfu'r pryderon o fewn y gymuned wledig, yn ogystal â'r dryswch ynglyn â faint fydd yn cael eu heffeithio.
Mae'r Trysorlys yn cynnig ffigwr o tua 500 ystad y flwyddyn, tra bod yr undebau amaeth yn pwyntio at ddata gan adran materion gwledig y llywodraeth, DEFRA, sy'n awgrymu y byddai nes at dau draean o ffermydd yn ddigon mawr i orfod talu'r dreth.
Ar y bws o Gaerfyrddin, dywedodd Delia Protheroe o Gwmduad, Sir Gâr: "Fi'n grac am be mae nhw'n trio neud achos sai'n cytuno ag e.
"Basically landgrab, absolute landgrab - so nw'n becso dim am food security - i gyd maen nhw'n becso am ydi climate change targets."
"Ni'n lwcus iawn oherwydd ni 'da amser i sortio pethe mas... Fi'n teimlo mor drist a grac 'da'r llywodraeth achos potentially bydd lot o ffermwyr teulu yn gorfod gwerthu tir achos y rheol yma."
Dywedodd eraill eu bod yn anghytuno â ffigyrau'r llywodraeth a'u bod yn pryderu am yr effaith ar y genhedlaeth nesaf.
Dywedodd John Davies o Boncath, Sir Benfro: "Dydy e ddim yn iawn achos mae bob ffarm teuluol yn gweithio'n galed i gadw ffarm dros y blynydde a falle dim neud cyflog mor dda o fe, ond yn neud siwr fod y ffarm yn cael ei basio mlaen i'r cenhedlaeth nesa.
"Wnes i gymryd y ffarm drosodd gyda fy mrawd pan o'n i'n 19 oed ar ôl i dad farw o salwch.
"Doedd dim dewis 'da ni ar y pryd ond ni wedi gweithio am dros 35 mlynedd nawr a falle, ar ôl yr holl waith ni wedi neud, fydde ni'n colli 20% o be yde ni wedi'i neud."
Ychwanegodd Mr Davies bod ffigyrau'r llwyodraeth am y nifer o ffermwyr fydd yn cael eu heffeithio yn "rhy isel".
"S'dim isio bod yn ffarm mawr dyddie yma i value ffarm chi fod lan i £1m neu £2m - mae tŷ pump bedroom yn werth £500,000 yn barod.
"Ni'n fodlon gweithio a cario 'mlaen gweithio. 'Sa well gen i dalu mwy ar dreth incwm achos unwaith 'da chi wedi colli'r tir, mae'r fferm di bennu."
Roedd Anwen Hâf Evans yn teithio gyda'i thad, Neville, o'u fferm yng Nghasnewydd-bach.
"Dydy'r llywodraeth ddim yn deall be mae ffermwyr yn mynd trwy, dy'n nhw ddim yn byw ar fferm, ddim yn deall pa mor hir mae angen gweithio a phopeth," meddai.
Dywedodd Neville: "Dwi'n gweithio bob bore, ma'n frawd yn godro nawr a'i fab e yn neud y gwaith i gyd achos dwi'n lan yn fan hyn i weld be sy'n mynd ymlaen."
"Mae angen i ni brotestio achos dy' nhw ddim yn gwybod be sy'n mynd 'mlaen 'da ffermio."
Dywedodd Ieuan Evans o Lanybri, Sir Gaerfyrddin ei fod yn poeni am yr effaith ar y genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
"Fedra i ddim dweud fod yr inheritance tax am effeithio ni ond mae e am effeithio'r genhedlaeth nesaf.
"Ni yma i ddangos bod moyn newid. Mae digon o waith 'da pawb sy dod lan ond ni eisiau gwneud rhywbeth nawr cyn iddo fod yn rhy hwyr.
"Mae lot o bethau arall gall y llywodraeth ei wneud i ffeindio arian, dim just rhoi mwy o straen ar ffermwyr."
"Mae angen ffermydd bach hefyd, nid just ffermydd mawr."
'Y trothwy'n £3m mewn achos arferol'
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud na fydd y llywodraeth yn newid y polisi.
Wrth siarad â’r BBC yn y G20, dywedodd ei fod "yn deall eu pryderon” ond “rwy’n hyderus iawn na fydd y mwyafrif helaeth o ffermwyr yn cael eu heffeithio o gwbl”.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai’r llywodraeth yn newid y polisi, dywedodd: “Na. Unwaith y bydd pobl yn sylweddoli ei fod yn drothwy o £3m mewn achos arferol cyn i dreth etifeddiant gael ei thalu, yna rwy’n meddwl y bydd pobl yn gweld y mwyafrif helaeth o ffermydd wedi’u heithrio - ac mae'r rheiny sydd heibio'r trothwy yn talu treth o 20% a all fod dros gyfnod o 10 mlynedd."
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gwrthod awgrymiadau y gallai'r dreth etifeddiant effeithio ar dri chwarter o ffermwyr.
Honnodd y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad y gallai cap ar ryddhad treth o £1m niweidio 70,000 o ffermydd y DU “gan niweidio busnesau teuluol ac ansefydlogi sicrwydd bwyd”.
Fodd bynnag, mae'r llywodraeth yn dweud mai dim ond 500 o ffermydd y flwyddyn sy'n hawlio Rhyddhad Eiddo Amaethyddol.
Eluned Morgan yn cefnogi'r newidiadau
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cefnogi'r newidiadau i dreth etifeddiant wrth i filoedd brotestio yn San Steffan.
Dywedodd yn y Senedd mai "nifer fechan" o ffermwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Dywedodd fod ffermwyr yn gwneud "cyfraniad pwysig iawn i'n gwlad", ac fe bwysleisiodd na fydd llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd