Euro 2025: Grŵp Cymru yn 'anodd' ond yn 'gyffrous iawn'
Mae Owain Harries o Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod eu grŵp yn rowndiau terfynol Euro 2025 yr Haf nesaf yn un "cyffrous iawn".
Mae'r grŵp gyda'r anoddaf y gallen nhw fod wedi'i gael gan y bydden nhw'n wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i dîm merched Cymru chwarae yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol.
Ar bapur, yn ôl detholion FIFA, Cymry ydy'r tîm gwannaf yn y gystadleuaeth, a hwythau'n 30ain ar y rhestr - mae Lloegr yn bedwerydd, Ffrainc yn 10fed, a'r Iseldiroedd yn 11eg.
Fe wnaethon nhw sicrhau eu lle yno gyda buddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn y gemau ail gyfle.