Cymru i wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn Euro 2025

Cymru'n dathlu yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol trwy drechu Gweriniaeth Iwerddon ddechrau'r mis

  • Cyhoeddwyd

Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn eu grŵp yn Euro 2025 yn Y Swistir.

Fe gafodd y grwpiau ar gyfer y gystadleuaeth eu dewis mewn seremoni yn Lausanne brynhawn Llun.

Dyma yw'r tro cyntaf erioed i dîm menywod Cymru gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau.

Fe wnaethon nhw sicrhau eu lle yno gyda buddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn y gemau ail gyfle.

Ar bapur, yn ôl detholion FIFA, Cymry ydy'r tîm gwannaf yn y gystadleuaeth, a hwythau'n 30ain ar y rhestr.

Roedden nhw ym mhot 4 wrth i'r enwau ddod o'r het, ac mae'r grŵp gyda'r anoddaf y gallen nhw fod wedi'i gael.

Mae Lloegr yn bedwerydd yn y rhestr detholion, Ffrainc yn 10fed, a'r Iseldiroedd yn 11eg.

Bydd Cymru'n chwarae eu gêm agoriadol yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Lucerne, a hynny ar 5 Gorffennaf.

Yna, bydd taith i St Gallen i herio Ffrainc ar 9 Gorffennaf.

Yno hefyd fydd gêm olaf Cymru yn y grŵp yn erbyn Lloegr, ar 13 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Wilkinson yw'r hyfforddwr cyntaf i gymryd tîm merched Cymru i un o'r prif bencampwriaethau

Bydd yr holl gemau grŵp yn cael eu chwarae rhwng 2 a 13 Gorffennaf 2025, gyda'r timau sy'n gorffen yn y ddau safle uchaf yn y pedwar grŵp yn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Fe fydd y gemau hynny'n cael eu cynnal rhwng 16 a 19 Gorffennaf, ac yna'r rownd gynderfynol rhwng 22 a 22 Gorffennaf.

Bydd y ffeinal yn cael ei chwarae yn Basel nos Sul, 27 Gorffennaf.

Mae tocynnau Euro 2025 eisoes ar werth ers 1 Hydref, gyda dros 250,000 o docynnau ar gael ers y dyddiad hwnnw ar gyfer pob un o'r 31 gêm yn y gystadleuaeth.

Ond roedd tua 120,000 o docynnau wedi cael eu dal yn ôl ar gyfer cefnogwyr y gwledydd sy'n rhan o'r gystadleuaeth, a bydd y rheiny yn cael eu rhyddhau nawr fod cefnogwyr yn gwybod pwy sy'n chwarae pryd, a ble.

Beth yw ymateb y cefnogwyr?

Mae cefnogwyr yn cydnabod bod y grŵp yn un anodd, ond yn dweud y bydd y profiad o fod yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn anhygoel i'r tîm a'r wlad.

Dywedodd Rhys Williams o Ystrad Mynach ei fod yn "grŵp diddorol iawn".

"Lloegr yw'r gêm y bydd pawb yn edrych arni, yn enwedig achos nhw yw'r pencampwyr presennol," meddai.

"Bydd Ffrainc yn sicr yn gêm anodd hefyd gyda dyfnder eu carfan.

"Byddai'n wych pe bai'r tîm yn gallu ennill gêm.

"'Da ni gyd yn cael atgofion melys o 2016 gyda'r dynion, ac os yw'r menywod yn gallu gwneud unrhyw beth tebyg haf nesaf, bydden ni gyd wrth ein boddau!

"Ond y peth pwysicaf yw, am y tro cyntaf mae tîm y menywod ar y llwyfan mwyaf, ac mae chwaraewyr fel Jess Fishlock bendant yn haeddu hynny!"

Ychwanegodd Gwen Horgan, sy'n wreiddiol o Gwm-nedd ond nawr yn astudio ym Mhrifysgol Birmingham: "Mae'r grŵp yn un anodd a bydd pob gêm yn her ond fi'n siŵr bydd y tîm yn 'neud popeth i baratoi mor dda â phosib

"Y gêm rwy'n edrych 'mlaen at fwyaf, wrth gwrs, yw Lloegr. Fe fydd hi'n gêm dda iawn, yn enwedig oherwydd bod cymaint ohonyn nhw yn 'nabod ei gilydd.

"Ond mae Ffrainc a'r Iseldiroedd hefyd yn dimau gyda chwaraewyr anhygoel ac felly bydden i'n dwlu mynd i wylio unrhyw un o'r gemau yn fyw os ydw i'n gallu cael tocynnau.

"Mae'r tîm wedi creu hanes yn barod wrth gyrraedd y gystadleuaeth, ac felly beth bynnag yw'r canlyniad bydd pawb yn eu cefnogi.

"Bydd pob gêm yn brofiad i'r merched a bydd hwn gwthio'r tîm i fynd a chyrraedd Cwpan y Byd hefyd mewn cwpl o flynyddoedd."

'Y Group of Death!'

Dywedodd Mared Jones o Waunfawr ger Caernarfon fod y "grŵp mae Cymru wedi ei gael yn un anodd iawn a mi fydd yn her enfawr i gyrraedd yr wyth olaf".

"Mae posib disgrifio Grŵp D fel y 'Group of Death' dwi'n meddwl!

"Ond i fod yn onest dwi ddim yn meddwl fydd y merched yn poeni rhyw lawer am bwy sydd yn y grŵp, achos mi fyddan nhw'n mynd amdani beth bynnag ac yn benderfynol o ddangos mai nid yno i wneud y rhifau ydan ni, ond yno i gystadlu.

"Mae'n rhaid mi ddweud, dwi'n edrych ymlaen i weld Cymru'n chwarae Lloegr.

"Mi fydd y gêm honno'n hwb enfawr dwi'n meddwl i bêl-droed merched yn y Deyrnas Unedig, ac yn amlwg yn gêm ble fydd yna lawer o angerdd ar ac oddi ar y cae."