Cymorth i farw: 'Oedd hi ddim isio byw ddim mwy'

Mae merch i ddynes wnaeth deithio i'r Swistir er mwyn dod â'i bywyd i ben wedi dweud y byddai hi'n gwneud yr un peth pe bai hi yn yr un sefyllfa.

Yn 2004 cafodd Janet Owen o Gwm Penmachno ger Betws-y-coed wybod bod ganddi fath o sglerosis ymledol, neu MS.

Erbyn 2009 roedd ei chyflwr hi wedi dirywio i'r fath raddau, a’r boen mor ddifrifol, ei bod hi wedi penderfynu teithio i glinig Dignitas yn y Swistir i gael cymorth i farw.

Yn dioddef o MS ei hun, mae merch Janet, Sian Wright, yn credu y dylai bobl fod a'r hawl i gael cymorth i farw yng Nghymru.

Yn ôl Sian, roedd ei mam yn teimlo'n ofnadwy o isel tuag at ddiwedd ei bywyd.

"Doedd hi ddim yn gallu sefyll na cherdded... Doedd hi ddim yn gallu gwneud dim byd erbyn y diwedd... Doedd hi ddim isio byw ddim mwy,” meddai

Dydd Mercher bydd aelodau Senedd Cymru yn trafod y mater, ac yn ystyried hawl pobl sydd yn dioddef o rai cyflyrau difrifol – nad oes modd gwella ohonyn nhw - i gael cymorth i farw.