'Aeth Mam i farw yn y Swistir - a byddwn i'n gwneud yr un peth'
- Cyhoeddwyd
Mae merch i ddynes wnaeth deithio i'r Swistir er mwyn dod â'i bywyd i ben wedi dweud y byddai hi'n gwneud yr un peth pe bai hi yn yr un sefyllfa.
Yn 2004 cafodd Janet Owen o Gwm Penmachno ger Betws-y-coed wybod bod ganddi fath o sglerosis ymledol, neu MS.
Erbyn 2009 roedd ei chyflwr hi wedi dirywio i'r fath raddau, a’r boen mor ddifrifol, fel ei bod hi wedi penderfynu teithio i glinig Dignitas yn y Swistir i gael cymorth i farw.
Yn dioddef o MS ei hun, mae merch Janet, Sian Wright, yn credu y dylai pobl fod â'r hawl i gael cymorth i farw yng Nghymru.
Cafodd cynnig i roi’r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i gael cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach yn y mis.
Ddydd Mercher, fe fydd aelodau Senedd Cymru yn trafod y mater, ac yn ystyried hawl pobl sy'n dioddef o rai cyflyrau difrifol – nad oes modd gwella ohonyn nhw - i gael cymorth i farw.
Cyn dod i wybod bod ganddi MS, roedd Janet Owen yn ddynes heini.
“Pan o’n i’n fach roedd Mam yn berson mor hapus â phositif. Roedd hi’n canu a dawnsio a cherdded y mynyddoedd,” meddai Sian.
Ond o fewn pum mlynedd o gael diagnosis, roedd hynny wedi newid yn llwyr.
“Ar ôl MS roedd popeth yn wahanol. Roedd hi’n brifo o hyd, o godi yn y bore i fynd i’r gwely gyda’r nos.
"Doedd hi ddim yn gallu sefyll na cherdded... Doedd hi ddim yn gallu gwneud dim byd erbyn y diwedd. Roedd hi mor isel a doedd hi ddim isio byw dim mwy.”
Beth yw Sglerosis Ymledol?
Mae sglerosis ymledol (MS) yn glefyd cronig sy'n effeithio ar yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, gan achosi amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys;
Effaith ar eich golwg
Symudiad y cyhyrau
Trafferthion wrth gadw balans
Blinder
Colli teimlad
Ym mis Ebrill 2009 penderfynodd Janet ei bod am deithio i glinig Dignitas yn y Swistir - yr unig wlad ar y pryd oedd yn gadael i bobl o dramor fynd yno i gael cymorth i farw.
Ar ôl chwe mis o drefnu fe aeth Janet yno gyda’i gŵr Aled Owen.
“Roedd o mor anodd pan ddywedodd Mam ei bod hi am fynd i Dignitas," meddai Sian.
"Roedd hi’n caru fy nhad a fi a Richard fy mrawd wrth gwrs, ond doedd hi ddim yn medru byw bellach.
“Doeddwn i ddim isio iddi fynd i’r Swistir, o’n i ddim isio hynny o gwbl.
"O’n i isio dod yn ôl o Japan, ble o’n i’n byw, a gofalu amdani, ond gwrthododd hi hynny.
"Wnes i ddim hyd yn oed cael y cyfle i weld hi, i roi cwtch iddi cyn iddi fynd.
"Mae’n galed dros ben, hyd yn oed yn meddwl amdano fo rŵan mae o dal yn galed, ond roedd Mam yn brifo pob diwrnod ac yn teimlo’n sâl a tydi hynny ddim yn fywyd.
“Y siom fawr ydy ei bod hi wedi gorfod teithio i gael y cymorth. Os oedd o ar gael yma, falle byddai hi wedi aros gyda ni am hirach.”
Dydd Mercher fe fydd aelodau’r Senedd yng Nghaerdydd yn trafod y cynnig a gyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach y mis hwn, sy’n cefnogi’r hawl i gael cymorth i farw i bobl sydd â salwch angheuol.
Ond mae disgwyl i’r ddadl, a gafodd ei chynnig gan yr aelod Llafur Julie Morgan, hefyd ystyried hawl pobl sy'n dioddef o rai cyflyrau difrifol – nad oes modd gwella ohonyn nhw - i gael cymorth i farw.
Bydd pleidlais yn dilyn dadl aelodau’r Senedd, ond gan nad yw cymorth i farw yn faes sydd wedi ei ddatganoli, nid oes gan Lywodraeth Cymru'r pwerau i basio unrhyw ddeddf ar y mater.
'Byddwn i'n gwneud yr un penderfyniad'
“Dwi’n hollol sicr bod angen i’r gyfraith newid ar hyn. Pam bod rhaid teithio’n bell i gael cymorth i farw? Dyw hynny ddim yn deg,” meddai Sian.
“Mae gen i MS rŵan hefyd, er ar hyn o bryd dydi o ddim mor ddifrifol â chyflwr Mam.
"Ond os oeddwn i yn yr un fath o boen - poen pob munud, fel oedd Mam erbyn y diwedd - byddwn i’n gwneud yr un penderfyniad â hi, hyd yn oed os nad yw’r gyfraith wedi newid yma.
"Doedd Mam ddim yn byw bywyd da erbyn y diwedd.”
- Cyhoeddwyd16 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
Ond nid pawb sy’n cytuno.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn honni y byddai pobl fregus yn cael eu rhoi mewn perygl pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni.
Dywed eu hesgobion fod “tystiolaeth helaeth” y gall marw â chymorth “arwain yn gyflym at ganlyniadau gwael ac anfwriadol, ac at ddibrisio holl fywyd dynol".
“Mae ein ffydd Gristnogol bob amser wedi’i gwreiddio yn realiti poen a marwoldeb, ond hefyd yng ngwerth anfesuradwy pob person dynol, beth bynnag eu statws cymdeithasol, eu mynediad at adnoddau, neu eu gallu corfforol neu feddyliol.
“Yn yr ysbryd hwnnw... rydyn ni’n rhoi ein cefnogaeth ddiffuant i ymestyn y gofal lliniarol gorau posibl i bawb sydd ei angen, fel nad oes unrhyw derfynau ar y tosturi rydyn ni’n ei ddangos fel unigolion ac fel cymdeithas.”