Ben Davies yn hapus gyda dyfnder tîm pêl-droed Cymru

Mae Ben Davies yn dweud fod yna lot o ddyfnder yng ngharfan Cymru bellach ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd gyda buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Yn absenoldeb chwaraewyr fel Ethan Ampadu, Kieffer Moore ac Aaron Ramsey yn ystod yr ymgyrch, mae chwaraewyr fel Liam Cullen a Josh Sheehan wedi creu argraff.

Rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 fydd nesaf i dîm Craig Bellamy, gyda’r grwpiau i gael eu trefnu fis nesaf.