Cymru yn curo Gwlad yr Iâ ac ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd
- Cyhoeddwyd
Curodd Cymru Gwlad yr Iâ o 4-1 yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru wedi ennill eu grŵp, ac yn cael dyrchafiad i gynghrair A y gystadleuaeth.
Sgoriodd Liam Cullen ddwy gôl, ac mi gafodd Brennan Johnson a Harry Wilson gôl yr un hefyd.
Roedd colled Twrci i Montenegro ar yr un noson yn golygu fod Cymru wedi cymryd safle cyntaf grŵp 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd, ac yn mynd ymlaen i'r haen uchaf.
Fe wnaeth Bellamy bedwar newid i'r tîm a gafodd gêm gyfartal i ffwrdd yn Nhwrci ddydd Sadwrn, gyda Mark Harris yn arwain yr ymosod.
O'r funud gyntaf roedd Orri Óskarsson yn profi i fod yn llond llaw i amddiffynwyr Cymru, gyda'i gefn at y gôl.
Gwlad yr Iâ oedd y tîm ar y droed flaen am rannau helaeth o'r hanner cyntaf, a doedd arbediad campus Danny Ward ddim yn ddigon i rwystro Andri Guðjohnsen rhag sgorio ei wythfed gôl i'w wlad ar ôl 7 munud.
Doedd Cymru heb ildio gôl mewn gêm gartref ers chwarae'r Ffindir fis Mawrth diwethaf.
Ond wedi cyfnod gwell i'r Cymry mi gafon nhw eu gwobrwyo, wedi i Liam Cullen benio croesiad o droed chwith Brennan Johnson i gefn y rhwyd - ei gôl ryngwladol gyntaf.
Ychydig cyn hanner amser roedd Cymru ar y blaen, gyda Liam Cullen unwaith eto yn cosbi Gwlad yr Iâ, ar ôl i Harry Wilson ddwyn y meddiant.
Dechreuodd yr ail hanner yn arafach, ond arbedodd Danny Ward yn dda i wthio'r bêl dros y trawst wedi 51 munud.
Tyfodd Gwlad yr Iâ mewn i'r gêm gan roi Cymru o dan bwysau mawr am gyfnodau, gyda VAR yn gwirio a gwrthod cic o'r smotyn iddynt ar ôl 60 munud.
Ond 5 munud yn ddiweddarach dyblodd Cymru eu mantais i wneud y sgôr yn 3-1, pan saethodd Brennan Johnson i gornel isaf y rhwyd, ar ôl i Cullen ei fwydo trwy fwlch yn yr amddiffyn.
Profodd i fod yn noson dda iawn i Liam Cullen, a dim ond gwella gwnaeth pethau wedi 79 munud, pan arweiniodd ei bas hir i Harry Wilson sgorio o du allan y cwrt cosbi.
Hon oedd gêm olaf Cymru yn 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Hydref
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl