Cau banciau 'yn broblem i elusennau ar draws Cymru'

Mae cau banciau "yn broblem ar draws Cymru i bob math o elusennau," yn ôl cyfarwyddwr cenedlaethol Merched y Wawr.

Dywedodd Tegwen Morris fod y broses o fancio arian yn arfer bod yn "hawdd", ond "ers i fanc Barclays gau yn Aberystwyth, y ddau le agosaf i ni fancio yr arian yw Caerfyrddin neu Llandudno".

Daw ei sylwadau ar ôl i Sefydliad Cymunedol Cymru ddweud bod banciau yn diystyru anghenion penodol elusennau, a bod mudiadau yn ei chael hi'n anodd i "gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol" wrth i fanciau'r stryd fawr gau.

Ond mae'r banciau'n dweud fod ymweliadau â changhennau yn gostwng a bod y mwyafrif yn dewis bancio ar-lein.