Bancio yn arfer bod yn 'hawdd' i elusennau - ond nid erbyn hyn
Mae bancio wedi mynd yn heriol i fudiad fel Merched y Wawr, meddai Tegwen Morris
- Cyhoeddwyd
Mae'r banciau yn diystyru anghenion penodol elusennau, yn ôl comisiwn sy'n eu cynrychioli.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn dweud fod elusennau yn ei chael hi'n anodd i "gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol" wrth i fanciau'r stryd fawr gau.
Maen nhw'n clywed yn aml iawn am drafferthion mae nifer o'r grwpiau - yn enwedig rhai bychain - yn eu cael i greu cyfrifon ac i redeg eu busnes ariannol.
Ond mae'r banciau'n dweud fod ymweliadau â changhennau yn gostwng a bod y mwyafrif yn dewis bancio ar-lein.
'Dim syndod fod grwpiau'n cau'
Dywedodd Richard Williams, prif weithredwr y sefydliad, fod mwyafrif y grwpiau elusennol sy'n gweithio gyda'r henoed yn delio mewn arian parod.
"Ar ddiwedd yr w'thnos ma' pot o bres i fancio ac yn aml ni yn clywed pobl yn sôn am orfod dal bws a theithio tua 10 neu 15 milltir i'r banc agosa i gashio y pres," meddai.
"Pan bo' chi yn cofio mai gwirfoddolwyr yw y rhan fwya' o'r bobl yma, [pobl] sy' wedi gweithio neu ymddeol, mae e'n beth anghyfleus a dyw e ddim syndod fod rhai o'r grwpiau yn cau lawr dros amser."

Richard Williams o Sefydliad Cymunedol Cymru, sy'n ariannu tua 500 o grwpiau elusennol bob blwyddyn
Un elusen sy'n wynebu heriau oherwydd cau banciau yw Merched y Wawr.
Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr cenedlaethol y mudiad, fod y broses o fancio arian yn arfer bod yn "hawdd".
"Ond ers i fanc Barclays gau yn Aberystwyth, y ddau le agosaf i ni fancio yr arian yw Caerfyrddin neu Llandudno," meddai.
"Fel allwch chi ddychmygu mae hynny yn dipyn o siwrne.
"Mae hyn yn broblem ar draws Cymru i bob math o elusennau, gan gynnwys yn sicr Merched y Wawr."

Mae hybiau bancio yn gallu bod yn anodd i'w defnyddio am fod diffyg cysondeb, meddai Emma Aue
Ym Mrynaman, mae Eglwys Sant Catherine yn defnyddio'r Swyddfa Bost i fancio arian.
Does dim banc yn y pentref erbyn hyn ac mae banciau mewn trefi cyfagos yn cau.
Un o'r aelodau yw Emma Aue: "Ma' fe yn anodd, achos ma' lot o'r bobl sy'n helpu yn yr Eglwys yn henach a dy' nhw ddim ishe gneud bancio ar-lein, a ffili teithio.
"'Sdim modd gan lot o bobl i deithio i'r banc, felly mae yn anodd iawn. Hefyd ma' problem gyda'r we lan fan hyn, 'sdim signal 'da pawb."
Wrth drafod y posibilrwydd o ddefnyddio hybiau bancio mae'n dweud bod diffyg cysondeb.
"Yn rhai o'r hybiau ma' nhw ond ar agor am tua awr, unwaith yr w'thnos ac os nad yw y trysorydd yn gallu bod yn yr hwb ar yr amser penodol yna, wel does dim help o gwbl."

Mae'r Parchedig Susan Barnett yn gofalu am bedair eglwys yn Nyffryn Aman
Mae'r Parchedig Susan Barnett yn gofalu am bedair eglwys yn Nyffryn Aman.
Mae'n dweud ei bod hi'n anodd heb y banciau wrth ddelio â phethau fel newid neu agor cyfrif newydd.
"Cofiwch gwirfoddolwyr yw y bobl sy'n helpu fel trysoryddion yn ein heglwysi," meddai. "Mae yn gofyn llawer."
Mae'r corff sy'n cynrychioli'r banciau - UK Finance - yn dweud eu bod nhw'n "gweithio yn agos gyda mudiadau elusennol er mwyn deall y problemau a'r heriau maen nhw'n wynebu".
Ychwanegodd llefarydd fod y gwasanaethau maen nhw'n gynnig i elusennau yn parhau i gael eu hadolygu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024