Pwy sydd yn y ffrâm i olynu Warren Gatland?
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi gadael ei swydd yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.
Prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt, fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer tair gêm olaf y Chwe Gwlad eleni.
Mae Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, gan gynnwys y ddwy gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y penderfyniad wedi'i wneud ar y cyd â Gatland.
Bydd Sherratt yn cymryd y rôl am weddill y bencampwriaeth, ond pwy sy'n cael eu crybwyll fel olynwyr llawn amser posib?
Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n trafod tri enw sydd wedi dod i'r amlwg - Simon Easterby, Michael Cheika a Franco Smith.