Warren Gatland yn gadael ei rôl fel prif hyfforddwr Cymru

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y golled yn erbyn yr Eidal yn Rhufain oedd gêm olaf Gatland wrth y llyw

  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi gadael ei swydd yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.

Prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt, fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer tair gêm olaf y Chwe Gwlad eleni.

Mae Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, gan gynnwys y ddwy gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y penderfyniad wedi'i wneud ar y cyd â Gatland.

Matt SherrattFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matt Sherratt fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer gweddill y Chwe Gwlad eleni

Bydd Cymru'n wynebu Iwerddon ar 22 Chwefror yng Nghaerdydd, yna taith oddi cartref i'r Alban ar 8 Mawrth cyn gorffen y gystadleuaeth eleni gartref yn erbyn Lloegr ar 15 Mawrth.

Roedd Gatland dan gytundeb tan Gwpan y Byd 2027 ond roedd cymal terfynu yn ei gytundeb yr haf hwn hefyd.

Tra mai Sherratt fydd yn cymryd y rôl dros dro, mae cyn-hyfforddwr Awstralia, Michael Cheika, hyfforddwr Glasgow, Franco Smith a phrif hyfforddwr dros dro Iwerddon, Simon Easterby, yn olynwyr llawn amser posib.

Disgrifiad,

Pwy sydd yn y ffrâm i olynu Warren Gatland? Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n trafod

O'r 26 gêm brawf y mae Cymru wedi eu chwarae yn ystod ail gyfnod Gatland, maen nhw wedi colli 20 ac wedi ennill chwech.

Mae'r rhediad presennol o 14 colled o'r bron yn cynnwys dwy gêm yn erbyn yr Eidal a gêm gartref yn erbyn Fiji, ac mae Cymru wedi disgyn i'r 12fed safle yn netholion y byd.

Wrth edrych ar ei record fel prif hyfforddwr Cymru yn ei gyfanrwydd, mae wedi bod wrth y llyw ar gyfer 151 o gemau - sy'n cynnwys 76 buddugoliaeth, 73 colled a dwy gêm gyfartal.

Cymru yn erbyn yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r golled i'r Eidal ddydd Sadwrn, mae Cymru bellach wedi colli 14 gêm o'r bron

O dan arweiniad Gatland rhwng 2007 a 2019 llwyddodd Cymru i gipio pedwar teitl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tair Camp Lawn ac fe wnaethon nhw ymddangos ddwywaith yng ngemau cyn-derfynol Cwpan y Byd.

Fe orffennodd ei gyfnod cyntaf wrth y llyw ar ôl colli'r gêm am y trydydd safle yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Japan yn erbyn Seland Newydd.

Dechreuodd ei ail gyfnod fel prif hyfforddwr ym mis Rhagfyr 2022 yn dilyn ymadawiad Wayne Pivac.

Fe wnaeth Gatland adael clwb y Chiefs yn Seland Newydd, ac roedd yn etifeddu tîm oedd ond wedi ennill tair o'r 12 gêm o dan Pivac, gan gynnwys colli i'r Eidal a Georgia.

Dim ond un gêm enillodd Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2023, ond roedd eu perfformiad yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2023 yn galonogol.

Ond ers cyrraedd rownd yr wyth olaf yn Ffrainc, dyw Cymru ddim wedi llwyddo ennill gêm brawf.

Gareth Anscombe yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd 2023 oedd un o uchafbwyntiau ail gyfnod Gatland

Yn 2024 fe wnaeth Cymru orffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad am y tro cyntaf mewn 21 mlynedd gan golli cyfanswm o 11 o gemau - y tro cyntaf i'r tîm rhyngwladol fethu ag ennill gêm mewn blwyddyn ers 1937.

Roedd y pwysau yn cynyddu ar Gatland, gyda thrafodaethau helaeth hefyd am gryfder y gêm yng Nghymru yn ehangach.

Roedd nifer o gyn-chwaraewyr yn cwestiynu ei arweiniad hefyd, gyda Mike Phillips, Tom Shanklin, Dan Biggar a Jamie Roberts ymhlith y rhai i'w feirniadu yn gyhoeddus.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru wrthod ei gynnig i ymddiswyddo fel prif hyfforddwr ym mis Mawrth 2024.

Cafodd adolygiad ei gynnal gan URC yn dilyn Cyfres yr Hydref siomedig, ond daeth penderfyniad y byddai Gatland yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd y Chwe Gwlad.

Roedd Gatland wedi awgrymu ei fod yn hapus i adael ei rôl os mai dyna oedd y peth gorau i rygbi Cymru, ond dywedodd nad oedd wedi cynnig ymddiswyddo fis Tachwedd.