Cwrdd â Phrif Weinidog y DU wrth ymarfer canu

Cafodd plant Ysgol Treganna eu canmol gan Brif Weinidog newydd y DU tra'n ymarfer canu yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Roedd criw o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn canu 'Safwn yn y Bwlch' pan ddaeth Syr Keir Starmer ac Vaughan Gething draw i sgwrsio.

Roedd Syr Keir Starmer ar ei ymweliad cyntaf â Chaerdydd ers cael ei ethol fel Prif Weinidog y DU.

Dywedodd bod yr ensemble lleisiol yn "ffantastig".

Bydd y côr yn perfformio o flaen y Brenin Charles, fel rhan o ddathliadau sy'n sydd nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r Senedd.