'Ar ben y byd' cael cyfarfod Syr Keir Starmer wrth ymarfer canu

Disgrifiad,

Yr ymateb wrth i Brif Weinidog newydd y DU wylio perfformiad ensemble Ysgol Treganna

  • Cyhoeddwyd

Cafodd disgyblion Ysgol Treganna yng Nghaerdydd sioc pan ddaeth Prif Weinidog newydd y DU a Phrif Weinidog Cymru atyn nhw wrth iddyn nhw ymarfer ar gyfer perfformiad i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu'r Senedd.

Roedd ensemble lleisiol Treganna yn ymarfer ger caffi'r Senedd a heb yn wybod iddyn nhw, roedd Syr Keir Starmer a Vaughan Gething yn gwrando'n astud.

Ar ôl iddyn nhw orffen canu 'Safwn yn y Bwlch', dywedodd Vaughan Gething eu bod nhw'n "ffantastig".

Bydd y disgyblion yn perfformio o flaen y Brenin Charles a gwesteion eraill ddydd Iau, fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu'r Senedd.

Mae fideo yn dangos y sgwrs a'r plant yn neidio mewn cyffro wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol nifer o weithiau.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Treganna
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgyblion Ysgol Treganna yn ymarfer ar gyfer eu perfformiad yn y Senedd ddydd Iau pan ddaeth Syr Keir Starmer a Vaughan Gething draw i wrando

Roedd Syr Keir Starmer yn ymweld â'r Senedd am y tro cyntaf ers dod yn Brif Weinidog y DU.

Dywedodd wrth y plant eu bod nhw'n "cerdded ar draws y bont acw pan glywson y sŵn hyfryd roeddech chi'n ei wneud ac roedd o'n ffantastig".

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o ensemble Ysgol Treganna: Jini, Casi, Elen, Meri, Morus, Joseff, Deio ac Idris

Eglurodd un o aelodau'r ensemble, Elen ar raglen Dros Frecwast: "Odden ni'n ymarfer cyn mynd i'r siambr a be nathon ni weld oedd Syr Keir Starmer a Vaughan Gething reit uwchben ni yn siarad i ni.

"Nathon nhw ddechrau siarad efo ni am ein canu ac o'n i mor hapus bo nhw'n siarad efo ni ac o ni ar ben y byd."

Mae Casi'n dweud nad oedden nhw'n gwybod bod y ddau yn gwrando arnyn nhw'n ymarfer.

Meddai: "O'dd pobl 'di dweud bod Syr Keir Starmer yn yr adeilad ond wedyn wrth i ni orffen canu, o'dd 'na glapio a'r camera yn mynd fyny ac odd e'n gymaint o sioc ac odd e fel 'waw!'"

'Ydw i'n breuddwydio?'

Mae Meri hefyd yn cofio'r cyffro a'r sioc.

"Nathon ni rewi ac o ni methu siarad. A 'nes i feddwl 'Ydw i'n breuddwydio?'"

Enillodd yr ensemble y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr ensemble lleisiol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae'r wyth plentyn sydd yn yr ensemble ym mlynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Treganna.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Treganna
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ensemble lleisiol Treganna yn ymarfer cyn mynd i'r siambr

Dywedodd eu hathrawes, Bethan Mair Roberts: "Ges i andros o sioc achos mi gawson ni wahoddiad gan Lywydd y Senedd, Elin Jones, i ganu ddydd Iau ar gyfer pen-blwydd dathlu 25 mlynedd ac oddan ni yna i ymarfer yn y siambr a'r peth ola' o'n i'n disgwyl oedd gweld Prif Weinidog Prydain yn troi fyny a siarad a rhoi amser i'r plant.

"O'dd cael bod yn y siambr ei hun yn anhygoel felly ddydd Iau bydd lot o bobl dros Gymru gyfan yn cael y profiad o wrando ar Safwn y Bwlch gan Hogia'r Wyddfa.

"Ymarfer y tu allan i'r caffi oeddan ni achos oddan ni'n aros i gyfarfod y Llywydd felly cynhesu'r llais, ymarfer chydig bach a wedyn ma' hyn yn digwydd."