Jac Morgan: Gêm 'galed' yn wynebu Cymru

Bydd Cymru yn herio'r Eidal ddydd Sadwrn yn Rhufain yn eu hail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ar ôl y golled drom o 43-0 yn erbyn Ffrainc ym Mharis y penwythnos diwethaf, mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i'r tîm.

Wrth edrych ymlaen at y gêm, dywedodd y capten, Jac Morgan, fod "pob gêm ar y lefel hyn yn bwysig a ni moyn ennill pob un."

Er, roedd yn cydnabod y bydd y gêm ddydd Sadwrn yn un "galed".

Ond os bydd Cymru yn ennill, dywedodd y bydd yn "rhoi lot o hwb i ni a lot o hyder i ni i gario 'mlaen gweithio a chryfhau," meddai.

Mae Cymru bellach wedi colli 13 gêm brawf o'r bron, gan gynnwys saith gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y golled ym Mharis oedd y tro cyntaf i Gymru fethu â sgorio pwynt mewn gêm gystadleuol ers 1998, er iddyn nhw orffen yn ddi-sgôr mewn colled o 31-0 yn erbyn Awstralia yn 2007.

Y tro diwethaf i Gymru wynebu'r Eidal fe gollon nhw 21-24 yng Nghaerdydd - canlyniad oedd yn golygu eu bod yn gorffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad yn 2024.