Dod â'r Mabinogi i 'gynulleidfa hollol newydd'

Bydd Pwyll, Branwen a Blodeuwedd – rhai o gymeriadau chwedlonol hynaf a mwyaf adnabyddus ein llenyddiaeth – yn serennu mewn gêm gyfrifiadurol byd eang newydd.

Mae chwedlau’r Mabinogion wedi ysbrydoli dramâu, straeon a darnau o gelf yn yr oes fodern.

Ond erbyn y gwanwyn, mae disgwyl i gêm fideo gan ddatblygwr o Ganada gael ei rhyddhau, a honno yn y Gymraeg.

“Mae gwneud hyn mewn fformat gêm fideo yn dod [â’r Mabinogion] i gynulleidfa hollol newydd,” dywedodd y datblygwr, Stevan Anastasoff.

Fe aeth Stevan ati i ddysgu rhywfaint o Gymraeg ar ôl olrhain ei gysylltiadau â Chymru – a dyna wnaeth ysbrydoli’r syniad ar gyfer y gêm.

Un o sgriptwyr y gêm yw’r Prifardd Rhys Iorwerth ac yn lleisio rhai o’r cymeriadau mae Phil Rowe o Ystradgynlais.

“Pan gysylltodd Stevan â fi, neidiais ar y cyfle,” meddai Mr Rowe.

“Mae’n arbennig iawn gweithio ar rywbeth gyda chymaint o hanes a diwylliant.”

Mae’n bwysig fod pobl yn “cofio gwreiddiau” y chwedlau yn ôl yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd.

“Mae cael gêm fideo fel hyn – yn y Gymraeg – mor bwysig ac yn mynd i dynnu sylw at y chwedlau eu hunain,” dywedodd.

“A hefyd, at yr iaith Gymraeg.”