Cyrraedd Euro 2025 yn 'golygu popeth' i garfan Cymru

Mae capten Cymru Angharad James yn dweud y byddai cyrraedd Euro 2025 yn “golygu popeth” i’r garfan, cyn ail gymal rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth.

Mae hi’n gyfartal 1-1 yn dilyn y cymal cyntaf yng Nghaerdydd, gyda’r enillwyr yn Stadiwm Aviva i chwarae yn y rowndiau terfynol yn Y Swistir yr haf nesaf.

Mae Cymru yn gobeithio cyrraedd un o’r prif gystadlaethau rhynwgladol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Bydd sylwebaeth lawn o’r gêm ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds, gyda’r gic gyntaf am 19:30.