Euro 2025: Cymru 1-1 Gweriniaeth Iwerddon

Disgrifiad,

Uchafbwyntiau'r gêm gyfartal rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon

  • Cyhoeddwyd

Mae gobeithion Cymru o o gyrraedd Euro 2025 yn dal yn fyw wedi gêm gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng nghymal cyntaf rownd derfynol y gemau ail-gyfle.

1-1 oedd y sgôr yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda Lily Woodham yn rhwydo i Gymru.

Bydd rhaid ennill felly yn yr ail gymal yn Nulyn nos Fawrth os yw tîm y merched am sicrhau lle mewn twrnament mawr am y tro cyntaf erioed.

Ond mae'r Gwyddelod hefyd yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd rowndiau terfynol yr Euros am y tro cyntaf.

Fe ddenodd y gêm y dorf fwyaf erioed ar gyfer un o gemau cartref merched Cymru - 16,845.

Gyda gymaint yn y fantol, doedd dim syndod efallai mai dechrau digon ansicr gafodd y ddau dîm

Yr ymwelwyr gafodd y cyfle cyntaf i sgorio ond aeth ergyd Julie Russell dros y postyn.

Yn ffodus fe arweiniodd wir cyfle cyntaf Cymru at fynd ar y blaen, wedi 20 munud o chwarae.

A hithau'n ennill cap rhif 157 i Gymru, Jess Fishlock wnaeth greu'r cyfle, ac er nad oedd ei chroesiad yn berffaith o bell ffordd, fe laniodd yn daclus i Woodham daro'r bêl i waelod ochor dde'r rhwyd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Gorfoledd chwaraewyr Cymru wedi i Lily Woodham sgorio

Ond fe barodd y fantais am chwarter awr yn unig, ac roedd y gôl a ildiodd Cymru i'r sgôr ddod yn gyfartal yn un hynod anffodus.

Ergydiodd Ruesha Littlejohn o bell tua chornel top y rhwyd ac fe lwyddodd y golwg Oliva Clark i'w wyro at y postyn.

Ond fe fownsiodd y bêl yn ôl gan daro Clark ei hun ac i mewn i'r rhwyd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ruesha Littlejohn a'i chyd-chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon wedi iddyn nhw ddod yn gyfartal

Roedd yna gyfle addawol i Ffion Morgan tua dechrau'r ail hanner ond aeth y bêl ochr anghywir y postyn.

Wrth i Gymru geisio sicrhau mwy o feddiant nag yn yr hanner cyntaf roedd yna gyfnodau pan wnaethon nhw lwyddo i roi pwysau ar y gwrthwynebwyr ac roedd yna ymdrechion da i sgorio gan Rhiannon Roberts a Carrie Jones.

Roedd angen arbediad gwych gan Olivia Clark i atal foli bygythiol gan Caitlin Hayes.

Ond doedd fawr i wahaniaethu'r ddau dîm mewn gwirionedd ac fe orffennodd y gêm yn gyfartal gôl yr un.

Bydd popeth yn dal yn y fantol felly pan fyddan nhw'n cyfarfod eto yn Stadiwm Aviva, Dulyn nos Fawrth.