Storm Darragh: 'Dal yn arw iawn yma'

Mae'n gohebydd Aled Scourfield wedi bod yn gweld effaith y storm yng ngogledd Sir Benfro ac yn crynhoi y gwaith clirio sy'n wynebu'r cyngor sir.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh.

Am 10:00 roedd o leiaf 35,500 o gartrefi heb drydan yng Nghymru, yn ôl y National Grid.

Mae gwyntoedd o dros 90mya wedi cael eu cofnodi yng Nghapel Curig ac Aberdaron.

Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda llifogydd a choed wedi disgyn ar draws y wlad.