'Rhwystredig' i beidio ag ennill yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon
Mae ymosodwr Cymru Carrie Jones yn dweud eu bod nhw’n “rhwystredig” i beidio ag ennill cymal cyntaf rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd.
Mi orffennodd y gêm yn gyfartal o 1-1, gyda’r ail gymal i ddod yn Nulyn nos Fawrth.
Mae Carrie yn dweud y bydden nhw’n “llawn hyder” yn mynd mewn i’r gêm honno ar ôl iddyn nhw ennill 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn Nulyn yn gynharach eleni.