'Pobl yn synnu fod y fath beth wedi digwydd yn Nhonysguboriau'
Mae dynes 40 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu yn Rhondda Cynon Taf nos Sul.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 yn dilyn adroddiad o achos o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau difrifol.
Mae dyn 42 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.
Fe gyrhaeddodd hofrennydd yr heddlu Tonysguboriau am 18:30 nos Sul gan gylchu'r ardal cyn dychwelyd i'w safle yn Sain Tathan.
Ein gohebydd, Alun Thomas sy'n dod â'r diweddaraf o'r ardal.